Neidio i'r prif gynnwy

Holi ac ateb gyda myfyrwyr cyllid GIG Cymru a phrentisiaid

grŵp o bobl yn rhestru i berson yng nghanol

Gofynnwyd i'n carfan o brentisiaid cyllid yn 2021 sut beth yw bod yn brentis cyllid ac astudio AAT gyda GIG Cymru. Dyma beth oedd gan Garin i'w ddweud. 

Mae gan ein Sianel Youtube fwy o fideos prentisiaid, a hefyd talso staff cyllid eraill sy'n siarad am pam mae Cyllid GIG Cymru yn Lle Gwych i Weithio.

Gan fod hwn yn gynllun mor newydd, buom hefyd yn siarad â staff cyllid sydd mewn rolau prentis lleol neu sy'n astudio ar gyfer yr un cymhwyster ag y mae'r rhaglen hon yn ei gynnig.  


Pa brentisiaeth ydych chi'n ei hastudio ar hyn o bryd a pham wnaethoch chi ddewis dod yn brentis yn Academi Gyllid GIG Cymru?

Olivia: Ar hyn o bryd, rwy'n astudio prentisiaeth cyllid yn fy Mwrdd Iechyd lleol. Rwyf wedi bod eisiau gweithio yn y sector Cyfrifeg a Chyllid ers i fi fod yng nghanol fy arddegau. Mathemateg oedd un o fy hoff bynciau yn yr ysgol ac roeddwn i wir eisiau swydd y byddwn i'n dda ynddi, ac yn ei mwynhau ar yr un pryd! Roeddwn yn astudio ar gyfer fy Lefelau ‘A’ pan ddes i ar draws yr hysbyseb prentis cyllid gyntaf - roedd yr amseru’n berffaith. Fy mwriad oedd mynd i'r brifysgol i astudio Cyfrifeg a Chyllid, fodd bynnag, doeddwn i ddim yn mwynhau astudio ar gyfer fy Lefelau ‘A’ mewn gwirionedd, ac roeddwn wedi treulio misoedd yn chwilio am lwybr gwahanol i'r llwybr gyrfa yr oeddwn i wedi’i ddewis. Wrth weld yr hysbyseb swydd yn Academi Gyllid GIG Cymru, roeddwn i'n gwybod y dylen i wneud cais gan ei fod yn gyfle anhygoel na fasai ar gael eto o bosibl.

Leanne: Ym mis Hydref 2018, bues i’n ddigon ffodus i gael gwaith gyda'r Bwrdd Iechyd fel eu Prentis Cyllid cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys gweithio yn Nhîm Rheolaeth Ariannol Datganoledig Pencadlys Baglan am bedwar diwrnod yr wythnos, ac yna mynychu'r coleg i astudio tuag at Gymhwyster Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu ar y pumed diwrnod. I ddechrau, gwnes i gais am nifer o resymau; fel oedolyn a darpar fyfyriwr, roedd angen i mi ddod o hyd i gyflogaeth a oedd yn diwallu fy angen am incwm a fy awydd i gael addysg bellach. Byddai prentisiaeth yn fy ngalluogi i wneud y ddau beth hyn ar yr un pryd. Yn yr un modd, roedd y GIG yn teimlo’n berffaith i fi. Roeddwn i wedi astudio yn y gorffennol i ddod yn Nyrs yn y GIG, ond yn ddiweddarach, darganfyddais fod gen i ddawn wrth gysoni ffigurau. Trwy weithio ym maes Cyllid y GIG, gallaf ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf o hyd, ond mewn ffordd sy’n fwy addas i’r doniau a’r addysg sydd gen i.

Pam ddewisoch gwblhau cymhwyster proffesiynol AAT?

Catherine: Penderfynais astudio AAT er mwyn ennill cymhwyster cyfrifeg ac er mwyn gwybod y sylfeini pe byddwn yn penderfynu cwblhau ACCA i ddod yn gyfrifydd cymwys.

Beth ydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am eich profiad hyd yn hyn?  Pa sgiliau/gwybodaeth newydd ydych chi wedi’u/wedi’i dysgu?

Leanne:  Mae fy ngweithle bob amser wedi bod yn gefnogol iawn o'm haddysg, a byddai'n mynd ati i chwilio am gyfleoedd i'm helpu i dyfu. Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae fy nghyfrifoldebau a'm dyletswyddau wedi cynyddu, ac rwyf wedi cael llawer o foddhad wrth ddod yn fwy hunangynhaliol. Pe bawn i'n enwi pob sgil neu gymhwysedd newydd rydw i wedi'u hennill yn ystod fy mhrentisiaeth gyllid, byddai'r rhestr hyd fy mraich. Ond er bod gen i rywfaint o wybodaeth am gadw cyfrifon cyn y rôl hon, y GIG sy'n gyfrifiol am fy holl ddealltwriaeth o gyfrifeg Yn y GIG y cefais gyfle mewn gwirionedd i ddeall y rhesymau y tu ôl i'r rhifau, ac yn bwysicach fyth, y bobl y mae'r niferoedd hynny'n effeithio arnyn nhw.

Catherine: Rwy’n mwynhau astudio AAT yn fawr iawn oherwydd fy mod yn dysgu sgiliau newydd ac yn adeiladu ar y rhai sydd gen i eisoes. Rwy’n dysgu’r broses o’r dechrau i’r diwedd a sut mae elfennau’n plethu, megis cofnodion dwbl, balansau treialon, datganiadau ariannol a llawer mwy.

Olivia: Mae fy mhrentisiaeth yn brofiad gwerth chweil ac rwy'n parhau i ddatblygu gyda chymorth a chefnogaeth Academi Gyllid GIG Cymru. Roedd fy nghydweithwyr wedi ei gwneud hi'n hawdd iawn i mi deimlo’n gartrefol yma ac roeddwn i'n teimlo fy mod i’n rhan o'r tîm ar unwaith.  Mae fy sgiliau cyfathrebu a’m hyder yn datblygu bob dydd gan fy mod yn aml yn cwrdd ac yn ymwneud â phobl newydd. Rwyf wedi dysgu i weithio mewn tîm ac rydw i’n gallu dirprwyo tasgau ac ysgwyddo cyfrifoldebau newydd, gan ddefnyddio fy menter fy hun. Rwyf wedi gallu datblygu fy sgiliau a chyfuno fy ngwybodaeth waith â'm hastudiaethau coleg i gael gwell dealltwriaeth o weithio ym maes Cyllid. Rwyf wedi bod yn gweithio yn Academi Gyllid GIG Cymru ers dros 15 mis ac rwy'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd!

Pa gyngor fyddech yn ei roi i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i ymgymryd â chymhwyster proffesiynol AAT?

Olivia: Os ydych chi'n ystyried gwneud prentisiaeth yn Academi Gyllid GIG Cymru, fy nghyngor i fyddai mynd amdani! Mae gwneud prentisiaeth yn ffordd wych o ddechrau datblygu eich gyrfa ac rwy’n argymell gweithio i Academi Gyllid Cymru GIG heb amheuaeth.  Yn sicr, roeddwn i'n poeni am gydbwyso gweithio'n llawn amser, astudio, a gallu neilltuo amser rhydd i fi fy hun, ond gwnaethon nhw wneud hyn yn bosibl i mi. Maen nhw hefyd wedi gwneud yn siŵr fy mod ar y trywydd iawn nid yn unig o ran fy nhasgau yn y gwaith ond hefyd o ran fy astudiaethau. Mae Academi Gyllid GIG Cymru yn lle gwych i weithio ac maen nhw'n neilltuo cryn amser wrth fuddsoddi ac yn cefnogi hyfforddi a datblygu prentisiaid.

Catherine: Mae’n gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes cyllid, gan ei fod yn gymhwyster cydnabyddedig ac mae’n rhoi’r sylfeini i chi er mwyn datblygu eich gyrfa yn y GIG ac mewn cwmnïoedd allanol eraill.

Leanne: Byddwn yn dweud, ‘Peidiwch â meddwl ddwywaith’. Fel person 25 oed, hoffwn i fynd yn ôl â chael sgwrs gyda fy hunan pan oeddwn i’n iau, a dweud wrthyf fy hun am ddilyn fy nghalon, yn lle fy mhen a fy waled. Bues i’n pendroni lawer gwaith am wneud cais ar gyfer prentisiaeth cyn i mi wneud hynny. Arweiniodd derbyn y cynnig at ostyngiad sylweddol i fy nghyflog, ac roedd yn teimlo fel dechrau o'r dechrau eto. Ond, wrth edrych yn ôl, rwyf wedi gwneud cymaint o gynnydd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf (o ran cyflog a llwyth gwaith), nes fy mod yn argyhoeddedig bod fy hen lwybr eisoes yn methu mewn cymhariaeth Weithiau, mae'n rhaid i chi gymryd cam yn ôl er mwyn cymryd cam ymlaen. Roedd y broses ymgeisio a chyfweld gymaint yn haws nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl; roedd y staff yn barod iawn i helpu ac yn ceisio gwneud i fi deimlo’n gartrefol bob amser. Os ydych chi'n ystyried gwneud cais ar gyfer prentisiaeth y GIG, dylech ddisgwyl bod yn brysur, dysgu'n gyflym, a chwrdd â llawer o wynebau newydd. Fodd bynnag, byddwch yn mynd adref bob dydd yn teimlo’n falch bod yn rhan o waith a threftadaeth wych y GIG y mae'r GIG yn sefyll amdano.

Beth fydd prentis Academi Gyllid GIG Cymru yn ei wneud ar ddiwrnod arferol? 

Leanne:  Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ym maes rheoli cyfrifon, sy'n golygu nad yw’r un diwrnod byth yr un peth. Rwy'n mwynhau'r amrywiaeth sy'n dod o weithio i gylchoedd adrodd diwedd y mis, a chynhyrchu dadansoddiad annibynnol. Bydda i’n creu fy llwyth gwaith fy hun yn ystod rhan helaeth o’r mis, i gyd-fynd ag anghenion fy mhartneriaid busnes a'r gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu. Ar ddiwrnod arferol, rwy'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm, yn ateb ymholiadau e-bost ad-hoc, yn cynhyrchu adroddiadau a thrwy amrywiaeth o raglenni cyllid integredig, yn ymchwilio i unrhyw anghysonderau yn y cyfriflyfr. Mae rhywbeth gwahanol i'w wneud bob amser!

Olivia: Mae fy nhasgau o ddydd i ddydd yn cynnwys prosesu anfonebau, cymeradwyo ffurflenni rheoli swyddi gwag a chysylltu ag aelodau eraill y tîm Cyllid a chyda chyflenwyr/deiliaid cyllideb. Rwy'n delio ag ymholiadau trwy e-bost neu dros y ffôn. Rwy'n mynychu cyfarfodydd, yn cysgodi aelodau'r tîm ac yn ymgymryd â chyfleoedd dysgu. Rwyf hefyd yn mewnbynnu data i gynorthwyo'r adran.

Dywedwch ragor wrthym am gwblhau’ch cymhwyster AAT yn ystod pandemig COVID-19

Catherine: Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio dosbarthiadau ar-lein i gwblhau ein hastudiaethau. Mae’n wych ein bod ni’n gallu cael yr arweiniad a’n bod yn gallu rhyngweithio â’n tiwtor o hyd. Fodd bynnag, yn bersonol, rwy’n mwynhau bod mewn amgylchedd dosbarth yn fawr, gan fy mod yn hoffi gweithio gyda fy nghyd-fyfyrwyr a rhyngweithio wyneb yn wyneb. Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn gefnogol ac yn anogol iawn. Rydym yn cadw at ein hamserlen o hyd, er gwaethaf yr anawsterau a ddaw yn sgil y pandemig.

Olivia: Oherwydd pandemig COVID-19, roedd rhaid imi ddechrau gweithio gartref a dydw i erioed wedi gwneud hynny o’r blaen. Cymerodd ychydig o amser i ddod i arfer â hynny, fodd bynnag, gwnes i addasu'n dda ac rydw i'n gweithio'n effeithlon ac yn effeithiol.  Rwy'n cwrdd yn rheolaidd gyda'r timau rwy'n gweithio gyda nhw ac rwy'n clywed yr wybodaeth ddiweddaraf yn y sesiynau briffio dyddiol. Er nad ydw i wedi gweld fy nghydweithwyr wyneb yn wyneb ers tro, rwy'n teimlo ein bod ni'n dal i fod yn dîm gwych ac rwy'n credu bod hynny’n bwysig iawn.

Leanne: Fel aelod o’r staff gweinyddol, rwyf wedi bod yn gweithio gartref ers mis Mawrth 2020 (bythefnos cyn diwedd ein blwyddyn ariannol). Rwy’n cydnabod, heb os, mai ein cydweithwyr rheng flaen sydd wedi cael eu heffeithio arnyn nhw fwyaf, ond bu cynnydd amlwg yn y gwaith gweinyddol sydd ei angen hefyd. Rwy'n cadw mewn cysylltiad gyda fy nghydweithwyr trwy e-byst a Microsoft Teams, ac yn yr un modd, rwyf wedi parhau â'm hastudiaethau drwy goleg ar-lein. Fel sy'n wir am y rhan fwyaf o staff, rwy'n gweld eisiau’r rhyngweithiadau wyneb yn wyneb ac rwy’n teimlo ei bod hi weithiau'n anoddach cyfleu syniadau, neu ddysgu tasgau newydd, wrth gyfathrebu trwy sgriniau yn unig. Rydych chi'n dysgu cymaint trwy eistedd ymhlith unigolion tebyg! Wedi dweud hynny, mae fy nheulu a minnau i gyd yn ddiogel ac yn iach, felly rydw i’n ddiolchgar iawn am hynny. Ac mae'n fraint gallu cyfrannu at waith gwych y GIG ar yr adeg anodd hon.

Fyddech chi’n argymell cwblhau Prentisiaeth Gyllid gyda cymhwyster proffesiynol AAT i eraill? Os byddech, pam?

Leanne: Yn bendant; mae dysgu rhywbeth mewn dosbarth, neu o werslyfr, ac yna dod i'r gwaith drannoeth a defnyddio'r addysg honno yn meithrin hyder. Mae'n helpu i wneud i'r gwerslyfr ddod yn fyw!

Olivia: Byddwn yn bendant yn argymell derbyn Prentisiaeth Cyllid. Dyma'r peth gorau i mi ei wneud erioed. Rydych chi'n ennill cymhwyster cydnabyddedig, yn ogystal â phrofiad gwych yn y gweithle ac rydych yn cael eich talu wrth wneud hynny. Mae fy mhrentisiaeth wedi fy ngalluogi i aeddfedu a thyfu fel person - dyna un o'r pethau gorau amdani hi, heb amheuaeth!

Catherine: Byddwn i’n bendant yn argymell y cymhwyster AAT. Fel rwyf wedi crybwyll eisoes, mae’n rhoi’r sylfeini ar gyfer eich gyrfa ym maes cyllid ac mae’n rhoi rhyddid i chi os byddwch yn dymuno cwblhau cymhwyster cyfrifeg pellach, megis ACCA.

Beth yw eich nodau gyrfa?

Leanne:  Ym mis Awst 2019, cefais ddyrchafiad i fod yn Uwch Swyddog Cyllid yn yr un tîm. Trosglwyddwyd llawer o'm tasgau prentisiaeth i'm rôl newydd, ond yn fuan, cefais gyfrifoldebau ychwanegol mwy cymhleth, a disgwylid imi ddod yn fwy hunanddibynnol. Rwy’n dal i gael cymorth addysgol, ac ar hyn o bryd rwy'n astudio tuag at Gymhwyster AAT Lefel 4. Fy mhrentisiaeth fu'r prif gatalydd wrth addo gyrfa dda ac rwy'n hynod ddiolchgar fy mod wedi bod ar y siwrnai hon. Yn yr hirdymor, rwy'n gobeithio parhau â'm hastudiaethau ACCA, i ddod yn gyfrifydd ardystiedig llawn.

Catherine: Fy nodau gyrfa yw datblygu fy ngwybodaeth a’m profiad yn adran gyllid Hywel Dda, gan fy mod yn gweithio yn y swyddogaeth cyfrifon rheoli ar hyn o bryd a dyma lle rwyf wedi bod ers dechrau fy ngyrfa yma. Hoffwn gwblhau’r cymhwyster ACCA hefyd er mwyn helpu i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach.

Olivia: Rwy'n gobeithio profi fy mod i’n aelod gwerthfawr o'r tîm a chael rôl barhaol yn yr Adran Gyllid. Rwyf hefyd yn gobeithio cwblhau fy nghymhwyster Cyfrifeg yr wyf yn ei wneud yn y coleg ar hyn o bryd a fydd wedyn yn fy ngalluogi i astudio i fod yn Gyfrifydd Siartredig yn y dyfodol.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am weithio i Academi Gyllid GIG Cymru?

Olivia: Rwy'n mwynhau'r amrywiaeth o dasgau a ddaw i fy rhan yn fawr iawn ac rwy'n teimlo'n falch iawn pan gynigir tasg newydd i fi sy'n rhoi mwy o brofiad i fi yn fy swydd ac o'r sector rwy'n gweithio ynddo. Mae hyn hefyd yn gwneud i mi deimlo bod fy ngwaith caled yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Rwy'n mwynhau gweithio yn Academi Gyllid GIG Cymru gan fy mod yng nghanol unigolion y gallaf ddysgu ganddyn nhw ac rwy’n cael fy annog i gymryd cyfleoedd newydd a heriol. Mae pawb yn gefnogol iawn; dydw i erioed wedi dod ar draws unrhyw un nad yw'n barod i helpu na rhoi o’i brofiad i gyflawni ein nodau cyffredin.

Catherine: Rwy’n hoffi pa mor amlochrog yw’r rôl gan nad yw’r un diwrnod yr un fath, ac rydych yn dysgu rhywbeth newydd bron bob dydd wrth i ni ymdrechu i wella. Rwyf hefyd wedi meithrin perthnasoedd cryf iawn gyda fy nghydweithwyr a’r gwasanaethau, ac rwy’n gwerthfawrogi hyn yn fawr.

Leanne:  Mewn un gair; y bobl. Rwy'n hoffi’r ffaith fod fy ngwaith yn ystyrlon. Er fy mod i'n gweithio ym maes cyllid, nid yw fy egni yn mynd tuag at gynyddu elw diwydiant preifat, ond yn hytrach mae’n cefnogi'r cyhoedd trwy gyfrwng arian. Mae'n dda gwybod bod eich gwaith caled yn mynd tuag at achos cystal. Yn yr un modd, dydw i ddim wedi cwrdd ag aelod o staff nad yw'n cadw at werthoedd y Bwrdd Iechyd, sef Gofalu am ein gilydd, Cydweithio, a Gwella bob amser. Mae gwaith tîm yn bwysig iawn ym Mae Abertawe, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ffordd rydyn ni i gyd yn cefnogi, yn annog ac yn ymfalchïo yn llwyddiannau ein gilydd.

Rhannu: