Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Academi Gyllid:  https://academigyllid.gig.cymru/

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu: 

  • chwyddo hyd at 200% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin 
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig 
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd 
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver. 

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd. 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon 

Fersiwn 1, cyhoeddwyd 17/09/2020

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  • Efallai na fydd rhannau o’r tudalennau yn gweithio’n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel rhaglenni darllen sgrin
  • Nid yw rhai dewislenni yn gwbl hygyrch
  • Nid oes gan rai botymau a dolenni ddisgrifiadau hygyrch
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys testun sydd â lliwiau gwrthgyferbyniol gwael
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys penawdau nad ydynt wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol
  • Nid oes modd defnyddio rhai tudalennau’n llawn gyda’r bysellfwrdd
  • Nid yw rhai tudalennau wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol o ran ffocws
  • Mae eitemau eilaidd y ddewislen yn newid trefn pan ddewisir eitem
  • Mae rhai ffurflenni yn cynnwys negeseuon gwall neu labeli aneglur
  • Ni ellir oedi na stopio rhywfaint o’r cynnwys sy’n symud 

Adborth a chysylltu 

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, yn y lle cyntaf, cysylltwch â Finance.Academy@wales.nhs.uk a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon 

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: Finance.Academy@wales.nhs.uk  

Gweithdrefn orfodi 

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

 

Rhannu: