Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom Ni

Mae Academi Gyllid GIG Cymru yn gydweithrediad gwirfoddol gan bob Cyfarwyddwr Cyllid GIG Cymru a'i uchelgais ar y cyd yw datblygu swyddogaeth Cyllid y GIG sydd “fwyaf addas i Gymru ond sy'n debyg i'r gorau yn unrhyw le”.

RyRydym yn cyflawni ein nod uchelgeisiol drwy dair rhaglen gyd-ddibynnol, pob un wedi'i noddi gan Gyfarwyddwr Cyllid GIG Cymru unigol:

  • Datblygu ein Pobl
  • Manteisio i'r eithaf ar ddefnyddio adnoddau
  • Rhagoriaeth Diogelu'r Dyfodol ym Mhopeth a wnawn

Rydym yn cyflawni'r cydweithrediad hwn trwy Fwrdd yr Academi Gyllid y mae Cyfarwyddwyr Cyllid ledled GIG Cymru yn rhan ohono, ynghyd â sefydliadau partner allweddol. Cefnogir y Bwrdd gan gyfarwyddwr a thîm rhaglenni bach.

Ethos yr Academi Gyllid yw bod pob aelod o staff sy’n gweithio i Gyllid GIG Cymru yn “aelod” o’r Academi ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfrannu at wella’r swyddogaeth gyllid. Mae gennym ystod o weithgareddau i gefnogi datblygiad arweinyddiaeth ar draws sbectrwm y gymuned gyllid sy’n hyrwyddo’r neges fod arweinyddiaeth bersonol yn bwysig ar bob lefel.