Ni yw Academi Gyllid GIG Cymru, a gallwn roi gwybodaeth i chi am yr opsiynau gyrfa cyffrous a gynigir ar draws Cyllid GIG Cymru a pham mae'n wych gweithio ym maes cyllid.
Mae 13 o sefydliadau yn rhan o GIG Cymru, sy'n cynnwys Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ynghyd â sefydliadau ategol.
Os ydych yn fyfyriwr, gallwn roi gwybod i chi pan fydd y sefydliadau hyn yn recriwtio i lenwi eu rhaglenni hyfforddi. Neu os ydych yn athro/ysgol neu goleg neu prifysgol
, gallwn gysylltu â chi ynglŷn â dod i’ch digwyddiadau. Gweler y maes perthnasol isod.
Myfyrwyr |
Ysgolion |
Ydych chi'n meddwl am yrfa neu’n chwilio am yrfa ym maes cyllid?
Os ydych chi eisiau gwybod rhagor am yrfa ym maes cyllid, rydyn ni wedi creu'r Llyfryn hwn i esbonio pam mae Cyllid GIG Cymru yn lle gwych i weithio. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau, rhaglenni a rolau sydd ar gael ynghyd â sut i wneud cais amdanynt.
Cofrestrwch eich diddordeb yn y rhaglenni sydd gan Academi Cyllid GIG Cymru i'w cynnig ar hyn o bryd, a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y rhain yn cael eu recriwtio. I gofrestru eich diddordeb, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://forms.office.com/e/dd46PYxPcA
|
Hoffech chi i ni ddod i ddigwyddiad mewn ysgol/coleg/prifysgol?
Rydym wedi creu fideo sy’n rhoi trosolwg i fyfyrwyr ar sut i ymuno â Theulu Cyllid GIG Cymru a dechrau ar eu taith gyrfa gyda ni. Mae'r fideo hefyd yn rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am y manteision o gael gyrfa gyda Chyllid y GIG. Gallwch ddod o hyd i'r fideo i’w ddangos i'ch myfyrwyr yma: https://www.youtube.com/watch?v=DvFswFG6jDM
Rydym yn gweithio gyda thimau Cyllid ledled GIG Cymru. Os hoffech i ni ddod i wasanaeth neu ddigwyddiad gyrfa i siarad am Gyllid GIG Cymru a'r hyn sydd gennym i'w gynnig, cysylltwch â ni drwy sganio'r cod QR a llenwi’r Ffurflen Microsoft: https://forms.office.com/e/8vTeVbMgj0
Ar ôl ei llenwi, bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi’n fuan i drefnu hyn. Mae gennym lawer o adnoddau i ysbrydoli ac ennyn diddordeb eich myfyrwyr gan gynnwys cyflwyniadau, gemau, tasgau, a chwis.
|
Dyma rai straeon gan ein prentisiaid ledled Cymru. Gallwch ddod o hyd i ragor yma.
“Fe wnes i gais i fod yn brentis oherwydd doeddwn i ddim eisiau dilyn y llwybr prifysgol arferol gyda dyled fawr ac roeddwn i'n teimlo'n barod i ddechrau gweithio a buddsoddi fy amser yn fy astudiaethau. Ticiodd y cynllun prentisiaeth hwn bob blwch ac roedd ganddo’r fantais fod ag enw roeddwn yn gwybod y gallwn ymddiried ynddo!”
Abigail, Prentis yn WAST
“Mae llawer o fanteision a chyfleoedd gwych yn dod o weithio i Gyllid GIG Cymru. Yn ogystal â hyn, mae gweithio i Gyllid GIG Cymru yn caniatáu i mi ennill profiad ochr yn ochr â fy astudiaethau Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT).
Rwyf hefyd yn hoffi’r ffaith i mi ddechrau ochr yn ochr â phrentisiaid eraill. Mae hyn wedi ein galluogi i drafod ein hwythnosau gwaith, helpu ein gilydd gyda’n gwaith a’n hastudiaethau, a meithrin cyfeillgarwch da yn y gwaith.”
Lois, Prentis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Dyma rai straeon gan ein graddedigion ledled Cymru. Gallwch ddod o hyd i ragor yma.
Yn gyffredinol, mae'r cynllun wedi bod yn gyfle gwych, ac rwyf wedi meithrin a datblygu sgiliau a phrofiadau amhrisiadwy, yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at eu defnyddio yn fy rolau yn y dyfodol o fewn Cyllid y GIG.
Mared, Hyfforddai Graddedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
“Gwnes i gais i fod yn gyfranogwr yng nghynllun Rheoli Ariannol GIG Cymru i Raddedigion oherwydd yn ystod fy astudiaethau prifysgol, fe wnes i fwynhau'r ochr rifiadol a dadansoddol yn fawr iawn ac roeddwn i eisiau defnyddio'r sgiliau hyn yn fy ngyrfa. Gwnes i gais i fod yn rhan o’r cynllun oherwydd yr ochr gylchdroadol o allu gweld llawer o wahanol adrannau cyllid o fewn un sefydliad o fewn y 3 blynedd yn y cynllun yn ogystal â'r cyfle i ddatblygu fy hun ymhellach a gweithio tuag at gymhwyster ACCA. Rheswm arall dros wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun yw'r chwilfrydedd oedd gen i am sut olwg fyddai ar y maes cyllid mewn sefydliad mor fawr â GIG Cymru ac felly y cyfleoedd a allai godi o hynny.
Rebecca, Hyfforddai Graddedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan