Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau cyllid ar gyfer staff GIG Cymru

Meddyg gyda chyfrifiannell
 
Mae’n hanfodol bod gan bawb yn y GIG sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio adnoddau - staff, nwyddau a gwasanaethau a chyfleusterau ffisegol - ddealltwriaeth briodol o gyllid a threfniadau llywodraethu cyllid, a’u bod yn gymwys o ran y sgiliau ariannol sydd eu hangen i ymgymryd â’u rolau.
 
Gall staff cyllid gynnig amrywiaeth o ddulliau dysgu ac adnoddau i staff nad ydynt yn staff cyllid ar bob lefel, gan gynnwys:
  • Sesiynau hyfforddiant cyllid ar gyfer aelodau o fyrddau
  • Hyfforddiant ar lywodraethu cyllid
  • Trosolwg ar gyllid wrth gynefino
  • Hyfforddiant ar gyfer deiliaid cyllidebau
  • Modiwlau cyllid o fewn rhaglenni hyfforddiant clinigol – yn enwedig nyrsys a meddygon
  • Hyfforddiant personol neu gyngor i ddeiliaid cyllidebau
  • Dulliau e-ddysgu
Os ydych yn gweithio yn y GIG ac am gael gwybod mwy ynghylch y cyfleoedd hyfforddiant ariannol a dysgu sydd ar gael i chi’n lleol, siaradwch â'ch tîm cyllid lleol, neu cysylltwch â ni yn finance.academy@wales.nhs.uk a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad.
Rhannu: