Mae Academi Gyllid GIG Cymru yn gydweithrediad gwirfoddol gan bob Cyfarwyddwr Cyllid sefydliadau GIG Cymru a'u huchelgais ar y cyd oedd datblygu swyddogaeth Cyllid y GIG sydd “fwyaf addas i Gymru ond sy'n debyg i'r gorau yn unman”.
Cyflawnir y cydweithrediad hwn trwy Fwrdd yr Academi Gyllid y mae Cyfarwyddwyr Cyllid ledled GIG Cymru yn rhan ohono, ynghyd â sefydliadau partner allweddol. Cefnogir y Bwrdd gan Gyfarwyddwr a thîm rhaglen bach.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r holl wybodaeth a gesglir neu a gyflwynir ar wefan Academi Gyllid GIG Cymru ac unrhyw wybodaeth arall a gesglir gan fentrau unigol fel rhan o amcanion neu strategaeth yr Academi ar gyfer seiliau dilys, cyfreithlon ac mewn fformatau amrywiol.
Mae’r hysbysiad hwn yn nodi pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, a sut a pham rydym yn ei chasglu.
Mae unrhyw gyfeiriadau canlynol at 'ni' yn cyfeirio at Academi Gyllid GIG Cymru fel corff “a letyir” o dan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac fel rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC).
Fel y disgrifir yn narpariaethau Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR) 2018, rydym yn cymryd mesurau priodol i gynnal diogelwch eich data. Mae’r wybodaeth a gesglir yn cael ei llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn ac mae defnyddio’r wefan hon neu ohebiaeth a gwaith gyda chi trwy ffurflenni neu ddulliau eraill yn arwydd o’ch cytundeb a bydd yn cael ei esbonio i chi ar y pryd.
Rydym wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd a diogelu eich data personol. Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod yr unigolyn hwnnw ohoni.
Darllenwch y canlynol i ddeall sut rydym yn defnyddio ac yn diogelu'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni, neu’r wybodaeth bersonol rydym yn ei chael neu'n ei chadw amdanoch chi, ac i ddeall beth yw eich hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol sydd gennym.
Bwriedir i’r hysbysiad preifatrwydd hwn fod mor eglur ac addysgiadol â phosibl, ond peidiwch ag oedi cyn rhoi gwybod i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffyrdd yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Mae’n bosibl y byddwn yn adolygu ac yn diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd, a byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newidiadau perthnasol.
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) sy’n bennaf gyfrifol am yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu amdanoch. Gelwir PCGC felly yn 'Rheolwr Data' o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR) ar gyfer y prosesau hyn.
Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data gyfredol. Disgrifir y rhain yn yr adrannau isod. I arfer unrhyw un o’ch hawliau, cysylltwch â Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth PCGC yn NWSSPinformationgovernance@wales.nhs.uk
Byddwn yn ymateb i'ch cais (gan gynnwys darparu gwybodaeth ynghylch a yw'r hawliau'n berthnasol yn yr amgylchiadau penodol) o fewn y cyfnod statudol perthnasol. Ar hyn o bryd, un mis calendr yw'r cyfnod statudol ar gyfer ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun am eich data personol eich hun.
Os nad ydym yn sicr o'ch hunaniaeth, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bellach er mwyn i ni gadarnhau pwy ydych chi. Os na allwn gydymffurfio â'ch cais, byddwn bob amser yn egluro pam.
Mae eich hawliau fel a ganlyn:
Hawl i gael mynediad at ddata personol - Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r data personol sydd gennym amdanoch chi.
Yr hawl i gywiro - Os ydych chi'n credu bod y data personol sydd gennym amdanoch chi'n anghywir, gallwch gysylltu â ni i ofyn am gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu wallus sydd gennym amdanoch chi. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni wirio cywirdeb yr wybodaeth newydd a roddwch i ni.
Yr hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn am dynnu yn ôl neu ddileu data personol sydd gennym amdanoch lle nad oes rheswm da i ni barhau i'w prosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu neu gael gwared â’ch data personol lle rydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu i ni gadw eich gwybodaeth, lle mae'n bosibl ein bod ni wedi prosesu'ch gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae'n ofynnol i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â'r gyfraith. Er y byddwn yn ystyried pob cais am ddileu yn ôl ei deilyngdod, efallai na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â'ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol a fydd yn cael eu hysbysu ichi, os yw'n berthnasol, ar yr adeg honno o'ch cais.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn eu defnyddio at ddibenion ein buddiannau dilys. Os cytunwn fod cyfiawnhad dros eich gwrthwynebiad, byddwn yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'ch gwybodaeth at y dibenion hynny. Fel arall, byddwn yn esbonio pam mae angen i ni barhau i ddefnyddio'ch gwybodaeth.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol - Mae gennych hawl i ofyn i ni atal prosesu eich data personol yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
Yr hawl i ofyn am drosglwyddo'ch data personol i chi neu i drydydd parti – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo gwybodaeth benodol sydd gennym amdanoch chi i drydydd parti rydych wedi'i ddewis, neu'n uniongyrchol atoch chi. Pan fydd eich cais yn ddilys, byddwn yn darparu eich data personol i chi mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin, sy'n ddarllenadwy â pheiriant.
Os byddwch chi byth yn anfodlon â’r ffordd rydym wedi trin neu rannu eich data personol, cysylltwch â ni ar
NWSSPinformationgovernance@wales.nhs.uka byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cynorthwyo.
Mae gennych hefyd hawl i gwyno i'r awdurdod goruchwylio os na chaiff y gŵyn ei datrys yn y lle cyntaf. Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (“ICO”) yw awdurdod goruchwylio'r DU ar gyfer materion diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill,
Ffordd Churchill,
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
E-bost: wales@ico.org.uk
Mae gennym fesurau diogelwch technegol a chorfforol priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael eu colli, eu camddefnyddio, a'u defnyddio neu ei ddatgelu mewn modd diawdurdod. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer amgryptio a dilysu i gadw'ch data yn ddiogel.
Pan fyddwn yn trosglwyddo gwybodaeth i drydydd partïon (fel yr eglurir yn yr adran isod), rydym yn mynnu eu bod hefyd yn rhoi gofynion diogelwch priodol ar waith i gadw'ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
Rydym hefyd wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw amheuaeth o fynediad diawdurdod at ddata personol a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol o fynediad diawdurdod lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y wefan. Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy o’ch gwirfodd ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, tanysgrifiadau neu holiaduron), ni fydd yr wybodaeth a gyflwynwyd ond yn cael ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y dibenion y cafodd yr wybodaeth ei chasglu. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr â thrydydd partïon.
Mae cwcis yn ffeiliau bach y mae gwefannau yn eu rhoi ar yriant disg caled eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â nhw. Mae cwcis yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i wefannau bob tro y byddwch chi'n ymweld â nhw. Fe'u defnyddir i adnabod porwyr gwe, olrhain tueddiadau defnyddwyr a storio gwybodaeth am ddewisiadau defnyddwyr. Gallwch gyfyngu/analluogi cwcis ar eich porwr; fodd bynnag efallai na fyddwch yn gallu manteisio'n llawn ar holl nodweddion ein gwefan heb gwcis.
I newid eich gosodiadau cwcis:
Trwy ddeall ymddygiadau a dewisiadau defnyddwyr, rydym yn gallu gwella cynnwys ein gwefan i ddiwallu anghenion a disgwyliadau defnyddwyr
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i ddolenni allanol; mae casglu gwybodaeth gan wefannau o'r fath yn amodol ar bolisïau preifatrwydd perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am arferion preifatrwydd gwefannau allanol, ac mae defnyddio gwefannau o'r fath yn ôl eich disgresiwn.
Dim ond pan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny y byddwn yn defnyddio'ch data personol a dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni'r pwrpas y mae angen i ni eu casglu ar ei gyfer. Isod, rydym yn nodi'r dibenion hyn, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni er mwyn gwneud hynny, ac am ba hyd yr ydym yn cadw'ch gwybodaeth bersonol.
Y dibenion yr ydym yn defnyddio'ch data personol ar eu cyfer |
Pa fath o ddata personol rydym yn ei ddefnyddio? |
Pa sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i ddefnyddio'ch data personol? |
Arolygon ac ymchwil |
Gwybodaeth megis:
|
Er mwyn cynnal ymchwil i gasglu gwybodaeth mewn ffordd bwyllog a systematig i sicrhau cywirdeb ac i hwyluso dadansoddi data |
Pan fyddwch yn holi am ein gweithgareddau |
Gwybodaeth megis:
|
Er mwyn darparu'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani, ac fel y bo'n briodol yn ôl y dull cyfathrebu a ddewiswyd gennych. Rhoi gwybod i chi am wasanaethau a allai fod yn berthnasol i chi.
|
Gwybodaeth a ddarperir yn uniongyrchol gennych chi |
Gwybodaeth megis:
|
Er mwyn darparu'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani, ac fel y bo'n briodol yn ôl y dull cyfathrebu a ddewiswyd gennych I drin eich ymholiad mewn modd effeithlon.
|
I gofrestru ar gyfer cyhoeddiadau a chylchlythyrau |
Gwybodaeth megis:
|
Ein pwrpas ar gyfer casglu’r wybodaeth yw er mwyn i ni allu darparu gwybodaeth amserol a pherthnasol i chi am wasanaethau a gweithgareddau Academi Cyllid GIG Cymru. |
Delio â'ch adborth, eich ymholiad neu'ch cwyn |
|
Rydym yn dibynnu ar ein buddiannau dilys i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth effeithiol, ac yn trin unrhyw gwynion yn briodol. Ein buddiant dilys yw ymdrin yn briodol ag unrhyw gwynion ynghylch ein gwasanaeth. Os penderfynwch ddwyn hawliad yn ein herbyn, rydym yn dibynnu ar ein hawl i brosesu eich gwybodaeth yng nghyd-destun hawliad cyfreithiol. |
Dim ond at y dibenion y bu i ni eu casglu y byddwn yn defnyddio'ch data personol, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol fod angen i ni eu defnyddio am reswm arall, a bod y rheswm hwnnw'n gydnaws â'r pwrpas gwreiddiol.
Os bydd angen i ni ddefnyddio'ch data personol at bwrpas nad yw’n gysylltiedig, byddwn yn eich hysbysu ac yn esbonio'r sail gyfreithiol sy'n caniatáu i ni wneud hynny. Fodd bynnag, gallwn brosesu eich data personol heb yn wybod i chi a heb eich caniatâd lle bo gofyn am hyn neu y caniateir hyn gan y gyfraith.
Dim ond cyhyd ag y bo angen at y diben y bu i ni ei chasglu y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth bersonol, gan gynnwys at ddibenion cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoliadol, cyfrifyddu neu adrodd.
Bydd gwybodaeth bersonol a brosesir mewn cysylltiad â'n prosesau busnes cyfreithlon yn cael ei chadw yn unol â'n Polisi Cadw a Dinistrio oni bai ein bod yn cytuno fel arall gyda chi, yn ysgrifenedig.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y meini prawf sy'n llywodraethu pa mor hir yr ydym yn cadw'ch gwybodaeth bersonol, ein Polisi Cadw a Dinistrio, neu unrhyw un o'n cyfnodau cadw gwahanol, cysylltwch â: