Ethos yr Academi Gyllid yw bod pob aelod o staff sy’n gweithio i Gyllid GIG Cymru yn “aelod” o’r Academi ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfrannu at wella ei hun a’r swyddogaeth gyllid. Mae gennym ystod o weithgareddau i gefnogi gwell arweinyddiaeth, datblygiad personol ac ymarfer ariannol ar draws sbectrwm y gymuned gyllid, gan gynnwys:
- Platfform mentora er mwyn i staff cyllid ledled GIG Cymru wirfoddoli i fentora ei gilydd ar eu meysydd arbenigedd
- Crynodeb cenedlaethol gan gyfraniadau staff o arferion da a'r cyfle i'w harddangos i gyfoedion
- Lle i roi cynnig ar dechnegau ariannol ar y cyd, i ddysgu oddi wrth ein gilydd wrth ei gymhwyso.
- Piblinell Dalent i fynd ati i gefnogi arweinyddiaeth ariannol ar draws ystod gyrfa ym maes Cyllid y GIG - o hyfforddai cyllid i Gyfarwyddwr Cyllid
- Cyfres o weithgareddau hyfforddi a datblygu yn amrywio o ddosbarthiadau meistr pwnc arbenigol, rhaglenni hyfforddi achrededig i gymorth personol ar asesu effaith
- Anogaeth a chefnogaeth ragweithiol ar gyfer lleoliadau a rolau datblygu profiad
- Partneriaethau strategol gyda phrifysgolion i ddarparu agweddau addysgol ar ein rhaglenni
- Dull sy’n canolbwyntio ar wella llywodraethu ariannol ar draws pob sefydliad yng Nghymru gan arwain at arfer gorau safonol
- Cydweithio â thimau Gweithlu a Chaffael ledled Cymru i ddatblygu dull “unwaith i Gymru” wrth ddefnyddio systemau craidd
- Cydweithio â sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru i gynnig cyfleoedd datblygu traws-sector cyhoeddus i fyfyrwyr cyllid
- Rhaglenni datblygu clinigol ac ariannol achrededig ar y cyd sy'n dwyn ynghyd arweinyddiaeth glinigol ac ariannol o bob rhan o Gymru gyda'r nod o hyrwyddo gofal iechyd ar sail gwerth - gan wella canlyniadau a chost cleifion