Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu Cyllid GIG Cymru

Pobl yn rhoi eu dwylo at ei gilydd

 

Ethos yr Academi Gyllid yw bod pob aelod o staff sy’n gweithio i Gyllid GIG Cymru yn “aelod” o’r Academi ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfrannu at wella ei hun a’r swyddogaeth gyllid. Mae gennym ystod o weithgareddau i gefnogi gwell arweinyddiaeth, datblygiad personol ac ymarfer ariannol ar draws sbectrwm y gymuned gyllid, gan gynnwys:

  • Platfform mentora er mwyn i staff cyllid ledled GIG Cymru wirfoddoli i fentora ei gilydd ar eu meysydd arbenigedd
  • Crynodeb cenedlaethol gan gyfraniadau staff o arferion da a'r cyfle i'w harddangos i gyfoedion
  • Lle i roi cynnig ar dechnegau ariannol ar y cyd, i ddysgu oddi wrth ein gilydd wrth ei gymhwyso.
  • Piblinell Dalent i fynd ati i gefnogi arweinyddiaeth ariannol ar draws ystod gyrfa ym maes Cyllid y GIG - o hyfforddai cyllid i Gyfarwyddwr Cyllid
  • Cyfres o weithgareddau hyfforddi a datblygu yn amrywio o ddosbarthiadau meistr pwnc arbenigol, rhaglenni hyfforddi achrededig i gymorth personol ar asesu effaith
  • Anogaeth a chefnogaeth ragweithiol ar gyfer lleoliadau a rolau datblygu profiad
  • Partneriaethau strategol gyda phrifysgolion i ddarparu agweddau addysgol ar ein rhaglenni
  • Dull sy’n canolbwyntio ar wella llywodraethu ariannol ar draws pob sefydliad yng Nghymru gan arwain at arfer gorau safonol
  • Cydweithio â thimau Gweithlu a Chaffael ledled Cymru i ddatblygu dull “unwaith i Gymru” wrth ddefnyddio systemau craidd
  • Cydweithio â sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru i gynnig cyfleoedd datblygu traws-sector cyhoeddus i fyfyrwyr cyllid
  • Rhaglenni datblygu clinigol ac ariannol achrededig ar y cyd sy'n dwyn ynghyd arweinyddiaeth glinigol ac ariannol o bob rhan o Gymru gyda'r nod o hyrwyddo gofal iechyd ar sail gwerth - gan wella canlyniadau a chost cleifion

 

Cynhwysiant

Mae hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI), a rhoi polisïau ac arferion sy’n cefnogi EDI ar waith, yn elfennau hanfodol ar gyfer creu gweithle a gweithlu hapus ac iach. Mae EDI yn ymwneud â chreu amgylcheddau gwaith a diwylliannau lle gall pawb, beth bynnag fo'u cefndir neu hunaniaeth, deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.

 

 

Beth rydym yn ei olygu wrth Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)?

  • Mae cydraddoldeb yn ymwneud â thrin pobl yn deg, ag urddas, a pharch. Mae'n ymwneud â darparu cyfleoedd i bawb gyflawni eu potensial, beth bynnag fo'u cefndir, diwylliant neu hunaniaeth.
  • Mae amrywiaeth yn ymwneud â pharchu, dathlu a chroesawu’r cymysgedd cyfoethog o safbwyntiau, syniadau, a gwerthoedd y mae pobl yn eu cynnig ond hefyd cydnabod croestoriad amrywiol hunaniaethau, sy’n cynnwys anabledd, ethnigrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, statws economaidd-gymdeithasol, hil, oedran, a statws priodasol.
  • Mae cynhwysiant yn ymwneud â darparu ar gyfer, parchu a chroesawu anghenion a safbwyntiau pobl o wahanol gefndiroedd, ieithoedd a diwylliant. Mae’n fan y gall pawb deimlo eu bod yn perthyn.

 

 

EDI yng Nghyllid GIG Cymru

Yng Nghyllid GIG Cymru, rydym yn canolbwyntio ar gofleidio diwylliant cynhwysol sy'n ystyried profiadau pawb ac yn gwerthfawrogi'r hyn y gall hyn ei gyfrannu i'r gweithle. Mae Timau Cyllid ledled Cymru wedi ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu sylweddol gyda chydweithwyr i hyrwyddo diwylliannau gwaith cadarnhaol, a hynny i gyd yn ysbryd gwneud Cyllid GIG Cymru y lle gorau i weithio. Mae gan bob sefydliad eu hamcanion cydraddoldeb strategol eu hunain ac mae'r Academi Gyllid yn cefnogi'r rhain drwy'r timau Cyllid ar draws GIG Cymru.  Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bob sefydliad yma:

 

 

Sefydliad

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gweithrediaeth GIG Cymru

Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC)

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymddiriedolaeth Felindre

Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST)

 

Pam mae Cyllid GIG Cymru yn lle gwych i weithio ynddo?

Mae Academi Gyllid GIG Cymru yn cefnogi ac yn helpu cydweithwyr i dyfu a datblygu ar draws Cyllid GIG Cymru. Er bod pob sefydliad GIG Cymru yn gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, dyma rai o'r mentrau eraill sydd ar gael gan Gyllid GIG Cymru:

Grwpiau
  • Mae gan bob sefydliad GIG Cymru Grwpiau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd a datblygu strategaethau i wella profiadau cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.  Yn ogystal â hyn mae gan Gyllid GIG Cymru Grŵp Arweinwyr Cynhwysiant, lle mae cydweithwyr yn rhannu arferion gorau a syniadau ac yn creu adnoddau i gydweithwyr eu defnyddio.
  • Mae pob tîm cyllid GIG Cymru yn cael ei gynrychioli yn ein cyfarfodyddArweinwyr Dysgu a Datblygu , sy’n cefnogi cyflawniad cynlluniau strategol Academi Gyllid GIG Cymru.
  • I'r rhai sy'n astudio ac sydd newydd gymhwyso (SNQ+), mae gan gydweithwyr fynediad at sianeli Teams SNQ+ ac Egwyddorion Astudio Cyllid Cymru Gyfan.
  • Gyda 44% o'n gweithlu Cyllid naill ai'n dysgu Cymraeg, yn siarad Cymraeg sylfaenol neu'n rhugl yn y Gymraeg, gall pob cydweithiwr ymuno â'n 'Grŵp Cyllid Cymraeg'.

 

cyfleoedd i Ddatblygu
  • Fel cydweithiwr cyllid bydd gennych fynediad at ein Platfform Dysgu a Datblygu sydd ag amrywiaeth o adnoddau dysgu, yn eu plith cyfleoedd mentora, gweminarau, astudiaethau achos, e-ddysgu a chanllawiau arferion gorau.
  • Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein Staff Cyllid a bydd Adolygiad Gwerthuso a Datblygu Personol (AGDP) rheolaidd yn eich helpu i nodi cyfleoedd datblygu i chi.
  • Mae Canllawiau Arferion Gorau hefyd ar gael ar y Llwyfan Dysgu a Datblygu. Mae enghreifftiau o ganllawiau arferion gorau yn cynnwys: AGDP, Mentora a chanllawiau technegol eraill.
  • Hyb adnoddau cynhwysiant ar y llwyfan Dysgu a Datblygu. Darllenwch am recriwtio cynhwysol, dewch o hyd i adnoddau ar y naw nodwedd warchodedig neu gwyliwch weminarau o Wythnos Cydraddoldeb GIG Cymru.

 

Digwyddiadau Datblygu
  • I’ch helpu i dyfu o fewn rôl yng Nghyllid GIG Cymru, rydym yn cynnal digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu eich sgiliau a gwella eich dysgu gan gynnwys ein Cynhadledd Flynyddol yr Academi Gyllid, Diwrnod Gweithdy a Chinio a Dysgu.
  • Mae ein dysgu dros ginio’n canolbwyntio ar amrywiaeth eang o bynciau. Yn ddiweddar rydym wedi cael siaradwyr o'r GIG ar bwnc cynhwysiant, yn cynnwys sesiwn ar Ddiogelwch Rhywiol yn y Gweithle, Windrush a'r GIG - Hanes Cydblethedig ynghyd â Theithiau Gyrfa gan uwch gydweithwyr.

 

Neges Groeso gan Gadeirydd Arweinwyr Cynhwysiant – Sartha Rajoo

 

Helo a chroeso. Hello and welcome.     

Mae ein Harweinwyr Cynhwysiant yn gweithio gyda’r Academi Gyllid, a’n nod yw dysgu a datblygu’n gyson. Mae sefydliadau sy'n wybyddol amrywiol yn cynhyrchu datrysiadau gwell.

 

Dyma ein cyflawniadau diweddar ein Grŵp Arweinwyr Cynhwysiant:

  • Mae gennym gynrychiolydd o bob sefydliad GIG Cymru.
  • Rydym yn cyfrannu at bynciau Cynhwysiant yng Nghylchlythyr Academi Gyllid GIG Cymru.
  • Rydym yn gwahodd siaradwyr i hwyluso Dysgu dros Ginio rhithwir i ledaenu ymwybyddiaeth ar amrywiaeth o bynciau. 
  • Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella, datblygu a rhannu adnoddau. Mae gwaith diweddar yn cynnwys creu Geirfa Termau Cynhwysol, ac rydym wrthi'n datblygu Canllawiau Recriwtio Cynhwysol ar gyfer Cyllid GIG Cymru, a fydd yn ymgorffori canllawiau o hysbysebu hyd at y broses ymsefydlu.

Rwy'n credu bod denu a chadw talent bresennol yn allweddol i'n strategaeth gweithlu. Arweinir Cyllid GIG Cymru gan dîm arweinyddiaeth cryf ac rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni ar draws y sefydliadau.

Rhannu: