Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfaoedd Cyllid yn GIG Cymru

Graddedigion

Cynllun Rheoli Ariannol i Raddedigion

Dysgwch ragor am gyfleoedd hyfforddi i raddedigion.

 Cymhwyster ar ôl TGAU/Safon Uwch

Dod o hyd i wybodaeth am brentisiaethau a Rhaglenni Rhwydwaith 75

Graffiau a chyfrifiannell<br>

Cyfleoedd Hyfforddi Cyllid Eraill

Dysgwch am gyfleoedd hyfforddi yn y timau cyllid.

Cofrestrwch eich diddordeb yn ein rhaglenni hyfforddi.

Ni yw Academi Gyllid GIG Cymru, a gallwn roi gwybodaeth i chi am yr…

Beth yw Cyllid GIG Cymru?

 

GIG Cymru yw Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a ariennir yn gyhoeddus ac sy'n darparu gofal iechyd i tua 3 miliwn o bobl sy'n byw yn y wlad.

Mae nifer o swyddi gwahanol mewn adran Gyllid; yn dibynnu ar y swydd a lefel y cyfrifoldeb gallech fod yn helpu staff clinigol i reoli eu cyllidebau a gwneud penderfyniadau allweddol effeithiol; sicrhau bod taliadau am nwyddau a gwasanaethau yn cael eu gwneud ar amser ac yn gywir; a helpu i sicrhau bod gan ysbytai yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt.

Mae dros 1,150 o staff yn gweithio mewn swyddogaethau cyllid a ddarperir gan GIG Cymru; gan gynnwys cyfrifon taladwy, archwilio mewnol a’r gyflogres. Mae strwythur adran Gyllid pob sefydliad ychydig yn wahanol ond mae gan adran arferol y swyddogaethau canlynol:

  • Rheolaeth Ariannol a Phartneru Busnes -Ychwanegu gwerth a herio timau gwasanaethau drwy gynllunio strategol, rheoli newid, rheoli prosiectau a risgiau, dadansoddi busnes, rhagweld a pherfformiad.
  • Cyfrifyddu Ariannol- Cynnal cywirdeb y cyfriflyfr ariannol gan sicrhau bod yr holl arian parod, incwm a gwariant yn cael eu cyfrifo a’u hadrodd yn unol â gofynion cyfrifyddu Llywodraeth Cymru.
  • Cyfrifyddu Cyfalaf- Gweithio ar y cyd â gwasanaethau rheng flaen i gael y budd mwyaf o fuddsoddiadau cyfalaf.
  • Cynllunio Ariannol - Sicrhau bod strategaeth ariannol y sefydliad yn cyd-fynd â strategaeth a chynlluniau’r gwasanaeth, gweithgarwch a gweithlu ac yn darparu cyswllt allweddol i'r broses o gynllunio gwasanaethau yn y tymor canolig.
  • Costio a Gwybodaeth Busnes - Gweithio'n agos gyda chlinigwyr ac arweinwyr gwasanaethau rheng flaen i'w galluogi i ddeall llawn faint yr adnoddau sy’n cael eu neilltuo a’r allbynnau sy’n cael eu darparu i hwyluso perfformiad gwasanaethau a’u moderneiddio.

Gyda gwell dealltwriaeth a phrofiad, gallai eich gyrfa symud ymlaen i swyddi mwy technegol a dadansoddol. Bydd profiad pellach a chymwysterau perthnasol wedyn yn eich galluogi i wneud cais am rolau uwch, megis: Cyfrifydd Partner Busnes, Pennaeth Cyllid ac yn y pen draw Cyfarwyddwr Cyllid.

Bydd gweithio ym maes Cyllid y GIG yn eich herio ac yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio a datblygu ystod eang o sgiliau gan eich gwneud yn rhan o dîm technegol a phroffesiynol medrus iawn sy’n helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd gofal i gleifion yng Nghymru.

 

 

Google YouTube

Rhannu: