Mae'r mwyafrif o dimau cyllid ledled GIG Cymru yn cynnig cyfleoedd i staff cyllid presennol yn eu timau astudio er mwyn ennill cymwysterau cyllid technegol neu broffesiynol. Bydd y cyfleoedd hyn yn dibynnu ar anghenion y tîm, a byddant yn ddarostyngedig i bolisïau a gweithdrefnau lleol.
Weithiau, bydd adrannau cyllid yn hysbysebu rôl hyfforddi yn benodol - naill ai ar sail prentis neu fel swydd barhaol gydag astudiaeth â chymorth. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu ar NHS Jobs yn ogystal ag ar wefannau unigol y sefydliad.