Mae gweithio i GIG Cymru yn rhoi ymdeimlad o falchder a phwrpas, gan gyfrannu at wasanaeth cyhoeddus sy’n effeithio’n uniongyrchol ar iechyd a llesiant cymunedau ledled Cymru.
Y GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru. Mae’n cyflogi dros 110,000 o staff. Mae dros 350 o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys amrywiaeth o swyddi megis fferyllwyr, parafeddygon, gynaecolegwyr, peirianwyr clinigol, radiograffwyr, bydwragedd ac mae’n cynnig cymorth mewn gwasanaethau cymorth hanfodol fel swyddi gweinyddol a chlercol, ystadau, rheolaeth gyffredinol/ariannol, arlwyo, rolau domestig neu hybu iechyd.
Efallai nad ydych wedi meddwl am y GIG fel opsiwn gyrfa o’r blaen, ond mae llawer o’r sgiliau a llawer o’r profiad a gawsoch yn yr ysgol a swyddi eraill yn allweddol yn rolau’r GIG.
Pa bynnag sgiliau, profiad a chymwysterau sydd gennych, gall y GIG gynnig gyrfa gyffrous a gwerth chweil i chi.
Mae’r GIG yn cynnig llawer o fuddion i’w weithwyr, dyma rai ohonynt:
Cyflog | Buddion |
|
|
Amgylchedd | Datblygu Gyrfa |
|
|