Pam fod Cyllid y GIG yn Lle Gwych i Weithio Ynddo?
Mae Cyllid GIG Cymru yn lle gwych i weithio ynddo oherwydd mae'n ddewis swydd gwerth chweil gyda chyfleoedd anhygoel lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch cymuned leol. Rydym hefyd yn eich helpu i gyrraedd eich nod o ran gyrfa; drwy gynnal adolygiadau blynyddol ar eich datblygiad personol gallwn eich cefnogi gyda'ch dyheadau o ran gyrfa. Rydym hefyd yn deall bod eich barn yn bwysig. Rydym yn gwahodd yr holl staff cyllid i gymryd rhan mewn arolygon a rhoddwn werth ar syniadau ac awgrymiadau'r timau.
Cyflog:
Byddwch nid yn unig yn derbyn cyflog cychwynnol da, ond mae hefyd ddatblygiad cyflog lle gallwch sicrhau cynnydd yn eich cyflog drwy gwrdd â'ch amcanion.
Mae’r wybodaeth isod yn rhoi arweiniad ar raddfeydd cyflog Agenda ar gyfer Newid GIG Cymru. Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i bob aelod o staff heblaw am feddygon, deintyddion a rheolwyr uchel iawn. Isod mae tabl sy’n dangos pwynt uchaf y cyflogau ym mhob band (yn gywir ym mis Tachwedd 2024):
Band |
Pwynt uchaf y Cyflog |
Mathau o Swyddi |
2/3 |
£26,000 |
Prentis Cyllid, Domestig, Porthor, Ysgrifennydd, Cynorthwyydd Gofal Iechyd |
4 |
£29,000 |
Dadansoddwr Cyllid lefel mynediad, Nyrs Ddeintyddol, Technegydd Fferyllfa, |
5 |
£37,000 |
Dadansoddwr Cyllid, Nyrs, Ymarferydd Theatr, Technegydd Therapi |
6 |
£45,000 |
Cyfrifydd Rheoli, Nyrs Ysgol, Seicolegydd dan Hyfforddiant, Gwyddonydd |
7 |
£53,000 |
Rheolwr Cyllid, Prif Nyrs y Ward, Rheolwr TG, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Therapydd |
8a-8d |
£61,000 - £103,000 |
Partner Busnes Cyllid, Rheolwr Gwasanaethau, Nyrs Arbenigol |
9 |
£123,000 |
Prif Reolwr Cyllid, Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Nyrs Arbenigol / Therapydd |
Cyfleoedd Datblygu Pellach
I’ch helpu i ddatblygu o fewn rôl yng Nghyllid GIG Cymru, mae yna ddigwyddiadau sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu eich sgiliau a gwella’ch dysgu, sy’n cyd-fynd â’r rhaglen neu’r rôl rydych chi ynddi ar hyn o bryd. Dyma rai enghreifftiau o gyfleoedd datblygu sydd ar gael wrth weithio gyda Chyllid GIG Cymru....
Cynhadledd yr Academi Gyllid a Diwrnod y Gweithdy
Cynhelir y digwyddiad yn flynyddol ac fel gyda'r uchod daw â nifer sylweddol o gydweithwyr cyllid ynghyd ar gyfer digwyddiad undydd fel arfer ym mis Chwefror. Ers sawl blwyddyn bellach rydym hefyd wedi cynnal diwrnod gweithdy llwyddiannus iawn ym mis Mehefin yn aml yn arddangos gwaith cydweithwyr ledled Cymru sy'n cefnogi rhaglen waith yr Academi Gyllid y byddwn yn parhau i'w chynnal yn y dyfodol.
SNQ+
Yn 2022 fe wnaethom ail-lansio ein rhwydwaith myfyrwyr ac mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y grŵp hwn o staff. Fe welwch yn yr egwyddorion astudio fod derbyn y gefnogaeth a gynigiwn yn awgrymu disgwyliad y byddwch yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau'r grŵp hwn. Fel graddedigion ar raglen ddatblygu fe welwch y bydd llawer o weithgareddau yn orfodol i chi.
Cynhadledd Cyllid Myfyrwyr Cymru Gyfan a Ariennir yn Gyhoeddus
Mae digwyddiad blynyddol arall, y bwriedir ei gynnal yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr, a fydd yn dod â myfyrwyr o swyddogaethau cyllid ar draws sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru ynghyd. Mae’r sefydliadau’n cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol, Gwasanaethau Tân a Heddlu a chyrff nad ydynt wedi’u datganoli fel y DVLA a'r ONS.
Mae gan yr Academi Gyllid hefyd raglen ddysgu gan gynnwys digwyddiadau dysgu dros ginio ar gyfer yr holl staff cyllid. Byddwch yn gallu mynd i’r digwyddiadau hyn drwy eich sefydliad, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u targedu’n benodol at fyfyrwyr, lle byddwch yn ymuno â staff cyllid eraill GIG Cymru sy’n astudio arholiadau cyllid drwy nifer o lwybrau. Byddem yn disgwyl i chi fynychu'r gyfres o ddigwyddiadau dysgu dros ginio ar gyfer myfyrwyr a'r digwyddiad ehangach.