Mae 13 o sefydliadau yn rhan o GIG Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ynghyd â sefydliadau cefnogi.
Byrddau Iechyd Lleol
Mae’r byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau'r GIG yn eu hardaloedd. Mae’r gwasanaethau iechyd hyn yn cynnwys:
- gwasanaethau deintyddol
- gwasanaethau optegol
- gwasanaethau fferyllfeydd
- gwasanaethau iechyd meddwl
Maent hefyd yn gyfrifol am y canlynol:
- gwella canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol
- hyrwyddo llesiant
- lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws eu poblogaeth
- comisiynu gwasanaethau gan sefydliadau eraill i ddiwallu anghenion eu trigolion
Dyma’r 7 Bwrdd Iechyd Lleol:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ymddiriedolaethau’r GIG
Mae ymddiriedolaethau'r GIG yn gofalu am iechyd y cyhoedd, gwasanaethau ambiwlans yn ogystal â gwasanaethau canser a gwaed. Y tair ymddiriedolaeth o fewn GIG Cymru yw:
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
Awdurdodau Iechyd Strategol
Ar hyn o bryd mae dau Awdurdod Iechyd Strategol sy’n cefnogi GIG Cymru:
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Sefydliadau Eraill
Mae sefydliadau eraill nad ydynt wedi’u rhestru uchod hefyd yn chwarae rhan enfawr yn nheulu GIG Cymru. Y sefydliadau hyn yw:
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Cynllunio a Chyflawni Ariannol (C&CA)
- Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCCGIG)