Un o'r ffyrdd i ddechrau eich gyrfa gyda ni yw trwy lwybr uniongyrchol.
Mae'r llwybr mynediad uniongyrchol yn golygu gwneud cais am swydd drwy'r wefan recriwtio, sef trac.jobs. Mae pob swydd wag yn GIG Cymru yn cael ei hysbysebu ar y wefan hon a byddwch yn cael gohebiaeth am statws eich cais yn rheolaidd.
Gallwch chwilio yn ôl swydd, lleoliad neu eiriau allweddol ar y wefan, neu hyd yn oed sefydlu cyfrif am ddim a derbyn hysbysiadau pan fydd swyddi’n cael eu hychwanegu. Bydd pob swydd wag yn rhoi gwybodaeth i chi am y rôl drwy'r hysbyseb, swydd-ddisgrifiad a manyleb y person. Mae hefyd yn cynnwys manylion am y sefydliad.