Neidio i'r prif gynnwy

Llwybr Prentisiaeth

Dyma lle gallech chi gael eich cyflogi gan Sefydliad sy’n rhan o GIG Cymru. Byddech chi wedi cael eich recriwtio trwy trac.jobs.  Drwy ymuno â GIG Cymru drwy'r llwybr hwn, gallech ennill gradd neu gymhwyster Technegydd Cyfrifyddu wrth weithio, dysgu ac ennill cyflog. 

Beth yw Prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn cyfuno profiad gwaith ymarferol yn y gweithle ag astudio

Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi i weithio tra'n astudio cymhwyster ffurfiol. Byddwch yn dysgu gan gydweithwyr profiadol, yn ennill sgiliau ymarferol, yn cyflawni cymhwyster y mae cyflogwyr ei eisiau ac yn ennill cyflog ar yr un pryd.

Bydd pob sefydliad yn cynnig lefelau prentisiaeth gwahanol, a gall hyd cyflogaeth amrywio yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael (cynlluniau sy’n para un, dwy neu dair blynedd).  Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen unrhyw hysbysebion yn ofalus, er mwyn deall yr hyn yr ydych yn gwneud cais amdano. 

 

Dyma drosolwg o bob lefel:

 

 

 

LEFEL 2 AAT

 

Mae'r Dystysgrif mewn Cyfrifeg yn cynnwys: Cyflwyniad i’r broses Cadw Cyfrifon ac Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon, sy'n rhoi sylfaen mewn cyfrifyddu ariannol; Egwyddorion Costio, sy'n cwmpasu hanfodion paratoi gwybodaeth costio a ddefnyddir mewn Cyfrifyddu Rheoli; a'r Amgylchedd Busnes, sef cyflwyniad i agweddau ehangach busnes a'r economi.

 

 

 

 

 

 

 

LEFEL 3 AAT

 

Mae'r cymhwyster wedi'i anelu at aelodau tîm ariannol a chyfrifyddu sydd am ddatblygu eu sgiliau mewn cyfrifeg ariannol. Mae Diploma Lefel 3 yn llwybr dilyniant i fyfyrwyr sydd wedi cyflawni Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi dechrau ar eu taith yn astudio pwnc cysylltiedig ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau mewn cyfrifeg.

Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Ymwybyddiaeth Busnes
  • Cyfrifeg Ariannol – Paratoi Cyfrifon Ariannol
  • Technegau Cyfrifyddu Rheoli
  • Prosesau Treth ar gyfer Busnes

 

 

 

 

 

 

LEFEL 4 AAT

 

Mae'r Diploma Lefel 4 hwn mewn Cyfrifeg Proffesiynol yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyflogaeth o fewn cyd-destun cyfrifeg ehangach. Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â phynciau a thasgau cyfrifeg a chyllid lefel uchel.

Byddwch yn edrych ar ystod eang o sgiliau a chymwysiadau rheoli ariannol ac yn ymgyfarwyddo’n drwyadl â hwy. Hefyd, byddwch yn ennill cymwyseddau wrth ddrafftio datganiadau ariannol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig, argymell strategaethau systemau cyfrifyddu a llunio a chyflwyno adroddiadau cyfrifyddu rheoli cymhleth.

Byddwch hefyd yn dysgu am reoli credyd a rheolaeth arian parod ac ariannol. Mae themâu allweddol drwy gydol y cymhwyster yn cynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu.

 

 

Defnyddiwch y dolenni isod i agor pamffledi gan y Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu am ragor o wybodaeth:

 

 

 

Beth Pam Pwy a Sut

Canllawiau Cymwysterau

 

Pwy all wneud cais?

I fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:

• bod yn 16 oed neu'n hŷn ar adeg cofrestru, nid oes terfyn oedran ar gyfer ymgeiswyr uwch

• ddim eisoes mewn addysg amser llawn ar adeg cofrestru

A fydd yn rhaid i mi dalu unrhyw gostau?

Na fydd. Ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd i wneud prentisiaeth, ni waeth beth yw eich oedran. Telir yr holl gostau gan eich cyflogwr a'r llywodraeth.

 

Sut mae cael gwybod pa Sefydliadau GIG Cymru sy'n recriwtio?

Ewch i’r ddolen isod neu cofrestrwch eich diddordeb yma a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd sefydliad lleol i chi yn recriwtio:

 

wneud cais am Llwybr Prentisiaeth  

 

 

Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Edrychwch ar y gwefannau hyn sy'n darparu rhagor o wybodaeth am Brentisiaethau yng Nghymru:

Storïau gan Brentisiaid yng Nghymru

Llywodraeth Cymru

Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT)

Rhannu: