Beth yw Rhwydwaith 75?
Mae cynllun Rhwydwaith 75 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â chymhwyster gradd cydnabyddedig wrth iddyn nhw ddefnyddio eu gwybodaeth yn uniongyrchol yn y gwaith. Mae Rhwydwaith 75 yn llwybr at radd sy’n cyfuno gwaith ag astudio. Gall gweithwyr dan hyfforddiant ennill gwybodaeth a chymwysterau academaidd fel ei gilydd ochr yn ochr â phrofiad ymarferol er mwyn eu gwneud yn raddedigion sy’n barod ar gyfer y diwydiant.
Pwy sy'n gymwys?
Mae’r fenter wedi’i gweinyddu gan Brifysgol De Cymru ac mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddilyn gradd rhan amser wedi’i hariannu’n llawn dros gyfnod o bum mlynedd tra hefyd yn gwneud lleoliad gwaith wedi’i gyflogi gyda chyflogwr nawdd. Mae’r myfyriwr yn treulio deuddydd yr wythnos yn y Brifysgol yn astudio tuag at y radd, a thridiau'r wythnos ar leoliad gwaith yn ystod y tymor, ond pum diwrnod yr wythnos yn ystod cyfnodau gwyliau’r brifysgol.
Sut i wneud cais:
Ewch i wefan Prifysgol De Cymru i wneud cais am Gynllun Rhwydwaith 75.
Cofrestrwch eich diddordeb am Gynllun Rhwydwaith 75