Dewch i weld beth mae Catrin Lewis, Prentis Cyllid AAT Lefel 2 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ei ddweud…
C: Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gwneud cais i wneud prentisiaeth gyda Chyllid GIG Cymru?
Catrin: Ewch amdani. Mae penderfynu beth i'w wneud ar gyfer gyrfa pan rydych mor ifanc yn anodd, ond gyda'r gefnogaeth a'r cyfleoedd a roddir i chi gan y GIG, rydych chi'n dysgu cymaint amdanoch chi'ch hun. Es i i'r brentisiaeth hon heb wybod yn union pa yrfa roeddwn i ei heisiau, ond 3 mis yn ddiweddarach rwy'n benderfynol o weithio fy ffordd i fyny'r llwybr cyllid o fewn y GIG!
C: Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am weithio i Academi Gyllid GIG Cymru?
Catrin: Rwy’n teimlo bod gen i gefnogaeth a bod pawb yn estyn croeso. Rwyf hefyd yn gwybod pe bai gennyf unrhyw broblem, y byddai'n cael ei drin yn broffesiynol. Mae’r ffaith bod oriau gwaith yn hyblyg a bod fy Mwrdd Iechyd yn cynnig gweithio hybrid, sef lle gallwch weithio yn y swyddfa rai dyddiau ac yna gweithio gartref ar ddiwrnodau eraill, yn gweithio’n dda. Mae gweithio hybrid a mynd i’r coleg unwaith yr wythnos yn golygu bod fy wythnos yn amrywiol ac anaml y byddaf yn diflasu gan fy mod wrth fy modd â’r swydd.
C: A fyddech chi'n argymell cwblhau Prentisiaeth Gyllid i bobl eraill?
Catrin: Byddwn yn argymell dod yn brentis, yn enwedig os ydych chi wrth eich bodd â rhifau a datrys problemau. Mae'n ddewis gwych os ydych chi eisiau dilyn y llwybr cyllid oherwydd mae’r cynllun dysgu ac ennill yn werthchweil. Mae'r cyfleoedd yn diddiwedd a'r profiad a gewch yn anhygoel.
Mae Sam wedi cwblhau ei Brentisiaeth Gyllid ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ac wedi llwyddo i gael swydd gyda’r Bwrdd Iechyd. Gwrandewch ar daith Sam a’i lwyddiant…
C: Beth wnaeth i chi ddewis gwneud prentisiaeth Sam?
Sam: Roeddwn i'n gwybod na fyddai'r Brifysgol yn addas i mi, ac roeddwn i eisiau mynd allan ac ennill rhywfaint o arian i mi fy hun wrth ddatblygu sgiliau hefyd ac ennill profiad mewn amgylchedd proffesiynol. I unrhyw un sy'n teimlo efallai nad yw'r Brifysgol ar eu cyfer nhw ac sydd am fynd i mewn i fyd Cyllid, cael rhywfaint o sylfaen ac adeiladu seiliau ar gyfer gyrfa ragorol, ni allaf argymell hyn ddigon. Nid wyf wedi difaru dim ac ni fyddwn yn newid unrhyw beth.
C: Beth wnaethoch chi yn eich prentisiaeth?
Sam: Rwyf wedi gweithio mewn sawl maes o’r sector Cyllid, ac i amrywiaeth eang o dimau yn Adran Gyllid BIP Caerdydd a’r Fro. Mae hyn wedi rhoi profiad a sylfaen werthfawr iawn i mi, ac rwyf wedi meithrin rhai perthnasoedd cryf ar hyd y ffordd. Ochr yn ochr â hyn, rwyf wedi cwblhau fy nghymhwyster AAT a roddodd yr hyn sy'n cyfateb i radd i mi heb unrhyw ddyled!
C: Sut brofiad oedd gwneud prentisiaeth gyda Chyllid GIG Cymru?
Sam: Yn sicr, y penderfyniad gorau i mi ei wneud oedd dewis mynd i lawr y llwybr Prentisiaeth. Rwyf wedi mwynhau’r cynllun yn fawr, ac ni allwn fod wedi gofyn am well arweinwyr cynllun. Teimlais fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a bod fy llais wedi ei glywed yn ystod y brentisiaeth gyfan. Cefais gefnogaeth gwbl anghredadwy drwyddi draw, a gwn y byddant yn parhau i'm cefnogi trwy fy ymdrechion yn y dyfodol.