Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

 

C1. Sut wy’n ymgeisio?

C2. Beth yw’r meini prawf cymhwyso?

C3. A oes arnaf angen profiad o reoli?

C4. A fydd profiad gwaith yn y GIG yn helpu fy nghais?

C5. A oes yna gyfyngiad oedran?

C6. Os wyf eisoes yn gweithio i’r GIG, a ddylwn ddweud wrth fy sefydliad fy mod yn ymgeisio am y rhaglen hwn?

C7. Sut allaf gael gwybodaeth am hynt fy nghais?

C8. Pa fath o asesiad y gallaf ei ddisgwyl?

C9. Sut allaf baratoi ar gyfer yr asesiad er mwyn gwneud fy ngorau?

C10. Pryd fydd y camau asesu’n cael eu cynnal?

C11. Faint fyddaf fi’n cael fy nhalu yn ystod y rhaglen?

C12. Ymle fyddaf i wedi cael fy lleoli?

C13. Pa gefnogaeth a datblygiad fyddaf yn eu cael yn ystod y rhaglen?

C14. A fyddaf yn gallu astudio am gymhwyster ffurfiol?

C15. Sut y caiff fy nghynnydd ei fesur yn ystod y rhaglen?

C16. Pa fath o gyfleoedd am swydd y gallaf i ue disgwyl unwaith y byddaf i wedi cwblhau’r rhalen hyfforddiant?

C17. Oes rhaid imi fod yn siaradwr Cymraeg? 

 

 

 
Mae ein system ymgeisio yn agor ym mis Ebrill ac yn cau ym mis Mehefin.  Rhaid i chi wneud cais ar-lein drwy fynd i wefan Swyddi'r GIG - dysgwch fwy ar ein tudalen sut i wneud cais. Rhoddir manylion llawn y broses ymgeisio, data cefndir a dolenni i ragor o wybodaeth am Swyddi'r GIG. Darllenwch y disgrifiad swydd a manyleb y person yn ofalus a theilwra eich ymateb yn unol â hynny.
 
 
C2. Beth yw’r meini prawf cymhwyso?
 

Bydd angen ichi fod wedi ennill tri chymhwyster Lefel A gradd C neu uwch (gall gynnwys Bagloriaeth Cymru) neu gymhwyster cyfatebol erbyn mis Medi’r flwyddyn y byddwch yn dechrau’r rhaglen. Yn ogystal, bydd angen ichi fod wedi ennill gradd B mewn Mathemateg TGAU. Trwy ein proses asesu, rhaid ichi allu dangos eich angerdd, eich ysgogiad a’ch penderfyniad wrth ddilyn gyrfa ym maes cyllid yn y sector cyhoeddus ac ym maes Rheolaeth y GIG.

Rydym yn chwilio am unigolion sy’n arddel gwerthoedd ac ymddygiadau’r GIG.

Mae’r rhaglen brentisiaeth yn targedu’n benodol unigolion sy’n chwilio am ddewis amgen i brifysgol ond sydd eisiau’r un rhagolygon gyrfa hirdymor ym maes cyllid a chyfrifyddiaeth.

 
 
 
Mae rhaglan wedi'i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau rheoli ariannol, rheolaeth gyffredinol ac arweinyddiaeth. Os oes gennych reolaeth ariannol sylweddol neu brofiad rheoli cyffredinol, neu gymwysterau ariannol penodol, yna nid yw'r rhaglen hwn ar eich rhan chi a dylech archwilio opsiynau datblygiad personol eraill.
 
 
 
Nid yw’n hanfodol, ond bydd yn ddefnyddiol i’ch helpu i ddeall yr heriau mawr sy’n wynebu arweinyddion yn y GIG modern.
 
 
 
Nid oes dim cyfyngiad oedran ar gyfer ymgeisio i’r rhaglen.
 
 
 
Rydym yn argymell eich bod yn ymgynghori â'ch Adran Adnoddau Dynol, yn gyfrinachol, cyn i chi gyflwyno eich cais.
 
 
 
Os cewch eich gwahodd i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses ddethol, byddwch yn derbyn eich gwahoddiad drwy e-bost. Fe'ch cynghorir i wirio eich cyfrifon e-bost yn rheolaidd ac os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost atom finance.academy@wales.nhs.uk marcio eich e-bost at sylw'r Cynllun Prentisiaid.
 
 
C8. Pa fath o asesiad y gallaf i ei ddisgwyl?
 

Bydd dau gam i’r broses asesu, sef cais ar-lein a chyfweliad.  Rydym yn defnyddio technegau arferion gorau asesu modern, a ddyluniwyd i roi pob cyfle ichi ddangos eich potensial. Cewch eich gwneud yn ymwybodol o’r safonau, cymwyseddau a’r sgiliau rydym yn chwilio amdanynt ym mhob cam. Mae rhan o’n hasesiad yn ymwneud â’ch potensial i ddatblygu sgiliau allweddol yn ogystal â’r rhai sydd gennych eisoes, ac arddangos cymwyseddau ac ymddygiadau yn unol ag egwyddorion craidd GIG Cymru.

Mae pob rhan o’r asesiad wedi’i dylunio i’ch asesu chi a’ch potensial. Mae manylion terfynol y broses asesu’n dal i gael eu cwblhau.

 

 
Mae angen i chi fod yn chi eich hun a defnyddio eich gallu naturiol ym mhob cam asesu. Bydd angen i chi adolygu’r wybodaeth sydd ar gael am y rhaglen a’r her fawr o arwain yn GIG Cymru. Mae’r wybodaeth ar y wefan yn rhoi mwy o fanylion ichi am yr asesiad dethol a gall eich helpu i ddeall y cyfeiriad strategol a’r amgylchedd ariannol a’r heriau sy’n wynebu GIG Cymru.
 
 
 
Mae amserlen lawn o’r gwahanol gamau asesu ar gael ar y wefan hon. Byddwn yn hysbysu ymgeiswyr ym mhob cam drwy e-bost.
 
 
 
Os ydych yn newydd i’r GIG, bydd eich cyflog cychwynnol yn tua £19,000 y flwyddyn.
Os ydych eisoes yn gyflogedig yn y GIG ar wahanol delerau ac amodau i’r swydd a hysbysebir, bydd angen ichi drafod eich cais gyda’ch cyflogwr (penderfynir ar unrhyw fater o ddiogelu telerau ac amodau yn ôl disgresiwn y cyflogi sefydliad dan sylw), felly mae’n bwysig bod yr Adran Adnoddau Dynol yn ymwybodol o’ch diddordeb yn y rhaglen cyn ichi wneud cais.
 
 
C12. Ymhle fyddaf i wedi fy lleoli?
 

Yn Brentis Cyllid GIG Cymru, byddwch wedi’ch lleoli mewn sefydliad lletyol yn GIG Cymru, ond byddwch hefyd yn magu profiad o swyddi cyllid gwahanol mewn un neu fwy o sefydliadau ledled GIG Cymru. Mae’r cynllun hwn hefyd yn rhoi’r cyfle unigryw ichi dreulio amser gyda chyrff cyhoeddus eraill. Oherwydd bod gennym bartneriaeth arloesol â chyrff sector cyhoeddus eraill Cymru, mae’n gyffrous i ni allu cynnig cyfle i chi gymryd rhan mewn dau secondiad 6 mis i gael mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr yng ngwasanaethau eraill y sector cyhoeddus.

Byddwn yn gofyn ichi nodi’r lleoliad(au) a ffefrir gennych ar gyfer y swyddi gwag sydd gennym yn GIG Cymru cyn y broses Canolfan Asesu.

Noder, er na allwn warantu y byddwch yn cael y dewis a ffefrir gennych, os cewch eich dewis ar gyfer y rhaglen, byddwn yn ceisio sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i’ch gosod yn y lleoliad a ffefrir gennych.

Bydd gofyn teithio i gyflawni’ch astudiaethau AAT. 

 
 
 

Bydd y rhaglen yn eich ymestyn ac yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau rheoli ariannol ac arwain wrth astudio ar gyfer cymhwyster cyfrifeg proffesiynol drwy brofiad datblygu dwys, gan ddysgu gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Bydd arentisiaid yn derbyn cymorth datblygu gan y sefydliad cynnal a'r Academi Gyllid drwy gydol y rhaglen tair blynedd gan gynnwys trafodaethau perfformiad ac adborth yn rheolaidd i sicrhau bod y prentis yn dysgu ac yn datblygu ei sgiliau rheoli ariannol "yn y swydd".

Yn ystod y contract cyflogaeth tair blynedd, bydd y prentis yn datblygu sgiliau ac arbenigedd ariannol personol a phroffesiynol penodol ar gyfer rolau yn y dyfodol. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu datblygu drwy'r profiad o reolaeth ariannol lwyddiannus o fewn y rolau a bydd y prentis yn cael cymorth i reoli ei ddatblygiad personol ei hun drwy logiau dysgu ac adolygiadau cynnydd. Bydd y rhaglen yn darparu gweithdai datblygu sgiliau, gan astudio ar gyfer cymhwyster technegydd cyfrifeg proffesiynol ffurfiol a mentor a chyfeillion a fydd yn helpu gyda datblygiad personol a thwf y prentis.

 
 
 

Fel rhan o'r rhaglen, byddwch yn astudio ac yn cwblhau cymhwyster Cyfrifeg Dechnegol gyda Chorff Cyfrifyddu cydnabyddedig (lefelau 2-4 AAT). Disgwyliwn i chi ennill y cymhwyster hwn er mwyn cwblhau'r rhaglen.

Sylwer, mae gofynion cymhwysedd penodol er mwyn ymgymryd â phrentisiaeth. Bydd y rhain yn cael eu trafod gyda chi yn ystod y broses asesu.

 
 
C15. Sut y caiff fy nghynnydd ei fesur yn ystod y rhaglen
 

Wedi'i gynllunio fel rhaglen tair blynedd gydag asesiad perfformiad parhaus a phwyntiau asesu ffurfiol wrth i chi symud ymlaen. Bydd eich targedau datblygu a’ch cynnydd academaidd yn cael eu trafod, eu cytuno arnynt, eu cofnodi a’u hadrodd amdanynt. Bydd eich rheolwr llinell yn trafod eich perfformiad â chi ar bob cyfle a bydd eich datblygiad yn cael ei bennu gan y cyd-drafodaethau hyn.

Yn ystod y rhaglen dair blynedd, byddwch yn datblygu sgiliau personol ac ariannol proffesiynol penodol i’ch paratoi ar gyfer swyddi yn y dyfodol. Bydd y rhaglen yn darparu gweithdai datblygu sgiliau ichi, y cyfle i astudio ar gyfer cymhwyster technegydd cyfrifyddiaeth cydnabyddedig a mentor a chyfaill a fydd yn helpu gyda’ch datblygiad a’ch twf personol.

Mae proses rheoli perfformiad glir a thryloyw ar waith, sy’n cael ei rheoli gan yr Academi Gyllid mewn partneriaeth â’ch sefydliad.

Os ydych wedi perfformio’n foddhaol yn erbyn yr amcanion a’r cymwyseddau ym mhob cam blynyddol, gan gynnwys llwyddo yn yr arholiadau technegydd cyfrifyddiaeth perthnasol, dylech fynd ymlaen i’r flwyddyn ganlynol.

Os cewch anawsterau, byddwch yn cael y cyfle i wella a bydd yr Academi Gyllid a’r Adran Adnoddau Dynol yn rheoli’ch perfformiad trwy weithdrefnau galluedd y sefydliad lletyol, a allai olygu na fyddech yn mynd ymlaen i’r flwyddyn nesaf. 

Os byddwch yn methu arholiadau ar unrhyw adeg, bydd trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r tîm academaidd cyfrifyddiaeth, eich rheolwr llinell, yr Adran Adnoddau Dynol a’r Academi Gyllid, a allai olygu peidio â mynd ymlaen i’r flwyddyn nesaf. 

 
C16. Pa fath o gyfleoedd am swyddi y gallaf i eu disgwyl unwaith y byddaf i wedi cwblhau’r rhaglen hyfforddiant?
 
Er na allwn warantu swydd barhaol ichi ar ddiwedd y rhaglen, mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth i gyfleoedd datblygu pellach fod ar gael sy'n rhan o'r rhaglen hon.

Byddwn yn darparu cymorth a mentora gyrfaol i’n darpar arweinwyr er mwyn mynd i’r afael â’r heriau mawr mewn ystod eang o swyddi cyllid ar draws GIG Cymru.
 
 
 C17. Oes rhaid imi fod yn siaradwr Cymraeg? 
 

Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio. Ni fydd rhaid ichi siarad Cymraeg yn rhan o’ch swydd, a bydd ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Cymraeg yn cael eu hystyried yn gyfartal ynghyd â’r rhai sy’n gallu siarad Cymraeg.

Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o’n diwylliant ac, mewn sawl rhan o Gymru, byddwch yn clywed pobl yn siarad Cymraeg fel iaith bob dydd. Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno dysgu Cymraeg ac, os felly, fe welwch fod eich sefydliad yn ymrwymedig i’ch cefnogi i ddysgu.

Rhannu: