Ydych chi'n chwilio am lwybr arall yn lle mynd i’r brifysgol, sy’n cynnig yr un rhagolygon yn yr hirdymor? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes cyllid a chyfrifyddiaeth?
Yna edrychwch ar yr hyn sydd gan ein Rhaglen Brentisiaethau i'w gynnig.
Byddwch yn ennill cymhwyster ariannol ac yn dysgu am gyllid y sector cyhoeddus trwy'r rhaglen brentisiaeth.
Mae'r rhaglen cyfnod penodol o dair blynedd yn cynnig hyfforddiant proffesiynol gyda Chymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) o lefel 2 i lefel 4, wedi'i ategu â hyfforddiant proffesiynol pellach.
Byddwch yn cael y cyfle unigryw i dreulio amser gyda chyrff partner eraill a byddwch yn profi'r ystod lawn o swyddogaethau cyllid.
Mae'r rhaglen brentisiaeth newydd gyffrous hon yn cael ei darparu mewn partneriaeth ag aelodau o'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid (FSDG). Mae'r FSDG yn cynnwys sefydliadau megis:
Os oes gennych uchelgais fawr i weithio yn un o'r rolau anoddaf mewn sefydliadau modern, os ydych o ddifrif am ddilyn gyrfa ym maes rheoli yn y GIG, os nad ydych wedi bod i’r brifysgol ond os oes gennych dair Lefel ‘A’ A*–C a gallwch gymhwyso'ch diddordeb, eich ysgogiad a'ch bod yn benderfynol o wneud gwahaniaeth, mae gennym ddiddordeb ynoch chi!
Bydd rhaglen yn eich ymestyn ac yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau rheolaeth ariannol ac arweinyddiaeth wrth astudio ar gyfer cymhwyster cyfrifeg proffesiynol trwy brofiad datblygu dwys, gan ddysgu gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
Yn ogystal â hyn, oherwydd bod gennym bartneriaeth arloesol â chyrff sector cyhoeddus eraill Cymru, mae’n gyffrous i ni allu cynnig cyfle i chi gymryd rhan mewn secondiadau i gael mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr yng ngwasanaethau eraill y sector cyhoeddus.
Llyfryn y Cynllun - yn crynhoi'r wybodaeth a ddarperir ar y safle hwn.