Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y Rhaglen

merch yn edrych ar sgrin gyfrifiadurol

Ydych chi'n chwilio am lwybr arall yn lle mynd i’r brifysgol, sy’n cynnig yr un rhagolygon yn yr hirdymor? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes cyllid a chyfrifyddiaeth?

Yna edrychwch ar yr hyn sydd gan ein Rhaglen Brentisiaethau i'w gynnig.

Beth yw Rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan?

Byddwch yn ennill cymhwyster ariannol ac yn dysgu am gyllid y sector cyhoeddus trwy'r rhaglen brentisiaeth.

Mae'r rhaglen cyfnod penodol o dair blynedd yn cynnig hyfforddiant proffesiynol gyda Chymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) o lefel 2 i lefel 4, wedi'i ategu â hyfforddiant proffesiynol pellach.

Byddwch yn cael y cyfle unigryw i dreulio amser gyda chyrff partner eraill a byddwch yn profi'r ystod lawn o swyddogaethau cyllid.

Pwy sy'n rhan o'r rhaglen?

Mae'r rhaglen brentisiaeth newydd gyffrous hon yn cael ei darparu mewn partneriaeth ag aelodau o'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid (FSDG). Mae'r FSDG yn cynnwys sefydliadau megis:

  • GIG Cymru
  • Archwilio Cymru
  • Llywodraeth Cymru a chyrff a noddedig
  • Llywodraeth leol
  • Heddlu Gwent

Os oes gennych uchelgais fawr i weithio yn un o'r rolau anoddaf mewn sefydliadau modern, os ydych o ddifrif am ddilyn gyrfa ym maes rheoli yn y GIG, os nad ydych wedi bod i’r brifysgol ond os oes gennych dair Lefel ‘A’ A*–C a gallwch gymhwyso'ch diddordeb, eich ysgogiad a'ch bod yn benderfynol o wneud gwahaniaeth, mae gennym ddiddordeb ynoch chi!

Bydd rhaglen yn eich ymestyn ac yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau rheolaeth ariannol ac arweinyddiaeth wrth astudio ar gyfer cymhwyster cyfrifeg proffesiynol trwy brofiad datblygu dwys, gan ddysgu gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Yn ogystal â hyn, oherwydd bod gennym bartneriaeth arloesol â chyrff sector cyhoeddus eraill Cymru, mae’n gyffrous i ni allu cynnig cyfle i chi gymryd rhan mewn secondiadau i gael mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr yng ngwasanaethau eraill y sector cyhoeddus.

Llyfryn y Cynllun - yn crynhoi'r wybodaeth a ddarperir ar y safle hwn.

Rhannu: