Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd ein rhaglen yn agored i geisiadau.
Os ydych yn ystyried gwneud cais, mae'r camau isod yn dweud wrthych am yr hyn sy'n dod nesaf yn y broses.
I'ch helpu i wneud cais da awgrymwn eich bod wedi edrych ar y wybodaeth am y rhaglen ar y safle hwn.
Rydym yn recriwtio ym mis Ebrill ar gyfer dyddiad dechrau yn ystod y mis Medi canlynol. Mae dau gam i’n proses recriwtio. Bydd angen ichi basio’r cam cyntaf i fynd i’r cam nesaf.
Yn gyntaf, byddwch yn ymgeisio trwy gwblhau cais safonol ar-lein y GIG trwy wefan NHS Jobs. Wrth wneud cais am y swydd hon, darllenwch y swydd ddisgrifiad a manyleb y person yn ofalus. Dylech chi deilwra'ch cais i ofynion y swydd.
Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo yn y cam hwn yn cael eu gwahodd i Ran 2.
Bydd ein cyfweliadau yn cynnwys panel o weithwyr proffesiynol ym maes cyllid o GIG Cymru a byddant yn ein helpu i ddarganfod rhagor am eich cryfderau, eich ymddygiadau a’ch set sgiliau.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cynnig lle ar y rhaglen tair blynedd fel Prentis Cyllid GIG Cymru, yn amodol ar wiriadau cyn cyflogaeth a gwiriadau o gymwysterau a chymwyseddau eraill.