Neidio i'r prif gynnwy

Yr Hyn a Gynigiwn i Chi

breichiau a dwylo yn gorgyffwrdd mewn cylch

Byddwn yn rhoi hyfforddiant, cymorth ac arweiniad ichi gynyddu eich potensial.

Fel Prentis Cyllid GIG Cymru, bydd y rhaglen yn eich ymestyn ac yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau rheolaeth ariannol ac arweinyddiaeth wrth astudio ar gyfer cymhwyster cyfrifeg proffesiynol trwy brofiad datblygu dwys, gan ddysgu gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Yn ogystal â hyn, oherwydd bod gennym bartneriaeth arloesol â chyrff sector cyhoeddus eraill Cymru, mae’n gyffrous i ni allu cynnig cyfle i chi gymryd rhan mewn secondiadau i gael mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr yng ngwasanaethau eraill y sector cyhoeddus.

Byddwch yn derbyn cefnogaeth ddatblygu gan y sefydliad sy’n lletya a’r Academi Gyllid trwy gydol y rhaglen dair blynedd gan gynnwys trafodaethau ynghylch perfformiad ac adborth yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn dysgu ac yn datblygu eich sgiliau rheolaeth ariannol “yn y swydd”.

Yn ystod y contract cyflogaeth tair blynedd, byddwch yn datblygu sgiliau ac arbenigedd ariannol personol a phroffesiynol penodol ar gyfer rolau yn y dyfodol. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu datblygu trwy'r profiad o reolaeth ariannol lwyddiannus wrth wneud y rolau a byddwch yn cael eich cefnogi i reoli eich datblygiad personol eich hun trwy lenwi cofnodion dysgu ac adolygiadau cynnydd. Bydd y rhaglen yn darparu gweithdai datblygu sgiliau, astudio ar gyfer cymhwyster technegydd cyfrifyddiaeth proffesiynol ffurfiol a mentor a chyfaill a fydd yn helpu gyda’ch datblygiad a’ch twf personol.

Rhannu: