Mae’n hanfodol bod gan bawb yn y GIG sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio adnoddau - staff, nwyddau a gwasanaethau a chyfleusterau ffisegol - ddealltwriaeth briodol o gyllid a threfniadau llywodraethu cyllid, a’u bod yn gymwys o ran y sgiliau ariannol sydd eu hangen i ymgymryd â’u rolau.
Gall staff cyllid gynnig amrywiaeth o ddulliau dysgu ac adnoddau i staff nad ydynt yn staff cyllid ar bob lefel, gan gynnwys:
- Sesiynau hyfforddiant cyllid ar gyfer aelodau o fyrddau
- Hyfforddiant ar lywodraethu cyllid
- Trosolwg ar gyllid wrth gynefino
- Hyfforddiant ar gyfer deiliaid cyllidebau
- Modiwlau cyllid o fewn rhaglenni hyfforddiant clinigol – yn enwedig nyrsys a meddygon
- Hyfforddiant personol neu gyngor i ddeiliaid cyllidebau
- Dulliau e-ddysgu
Os ydych yn gweithio yn y GIG ac am gael gwybod mwy ynghylch y cyfleoedd hyfforddiant ariannol a dysgu sydd ar gael i chi’n lleol, siaradwch â'ch tîm cyllid lleol, neu cysylltwch â ni yn
finance.academy@wales.nhs.uk a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad.