Neidio i'r prif gynnwy

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, weithiau bydd gennym PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Rhagfyr 2020, rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML neu ffurflenni ar-lein hygyrch yn eu lle.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau Bwrdd a Phwyllgorau, dogfennau polisïau a gweithdrefnau neu ddogfennaeth statudol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.

Rydym yn cyhoeddi dogfennau PDF yn achlysurol sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau, llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth – mae’r rhain y tu allan i’r cwmpas ac ni fyddant yn cael eu datrys.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.

Rhannu: