Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.


Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd  y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch


Fersiwn 1, cyhoeddwyd 17/09/2020
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol. Diffyd cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Er ein bod yn ymdrechu i fodloni ‘RhHCG 2.1 AA’ mae gennym y problemau diffyg cydymffurfio canlynol ar hyn o bryd:

  • Mae rhai dewislenni, a rhannau o rai tudalennau, wedi’u marcio mewn ffordd a allai eu gwneud yn ddryslyd wrth gael atynt trwy Dechnolegau Cynorthwyol.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Mae dewislen wag yn bresennol ar rai tudalennau.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.1 WCAG 2.1, Dosrannu (Lefel A), na maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Nid oes gan y botwm a ddefnyddir i gael gwared ar unrhyw destun a nodir yn y blwch chwilio label hygyrch.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A)
  • Mae’r botwm/dolen a ddefnyddir i newid iaith yn cynnwys label gwahanol, llai penodol i Dechnolegau Cynorthwyol nag i ddefnyddwyr gweledol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.2 WCAG 2.1, Labeli neu Gyfarwyddiadau (Lefel A)
  • Nid oes gan rywfaint o destun ddigon o gyferbynnedd â’i gefndir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, Cyferbynnedd (Lleiafswm) (Lefel AA)
  • Nid yw penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
  • Ni ellir defnyddio rhai rhannau o rai tudalennau yn llawn gyda’r bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.1, Bysellfwrdd (Lefel A)
  • Mae gan rai elfennau drefn afresymegol o ran ffocws.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1, Trefn Ffocws Lefel A
  • Mae eitemau eilaidd y ddewislen yn newid trefn pan ddewisir eitem.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.2.3 WCAG 2.1, Gwe-lywio Cyson (Lefel AA)
  • Mae rhai ffurflenni yn cynnwys negeseuon gwall neu labeli aneglur.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.2 WCAG 2.1, Labeli neu Gyfarwyddiadau (Lefel A)
  • Nid oes gan rai carwselau (a arddangosir ar sgriniau bach neu ar lefelau chwyddo uchel) ddull i’w hoedi neu i’w stopio rhag symud. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.2.2 WCAG 2.1, Oedi, Stopio, Cuddio (Lefel A)

 

Baich anghymesur

Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i gleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.

Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn destun newid).

  • Papurau Bwrdd neu bwyllgorau
  • Adroddiadau perfformiad a allai gynnwys data adrodd/ystadegol cymhleth
  • Polisïau a gweithdrefnau wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018
  • Cyhoeddiadau â dolen o’n tudalenau Rhyddid Gwybodaeth – gan gynnwys logiau datgelu
  • Cyhoeddiadau a alla’i fod wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai’n rhaid eu gosod gan drydydd parti. 
     

Llywio a chyrchu gwybodaeth

  • Nid oes unrhyw ffordd i neidio’r cynnwys sy’n cael ei ail-adrodd ar bennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn ‘neidio i’r prif gynnwys’).
  • Nid yw bob amser yn bosib newid gogwydd y ddyfais o llorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys.
  • Nid yw’n bosib i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd.
Rhannu: