Mae Glenda yn darparu cymorth rheoli prosiect pwrpasol i’r meysydd rhaglen Hyrwyddo Rhagoriaeth ac Arloesi ac Ychwanegu Gwerth. A hithau â chefndir mewn caffael a gwella prosesau, ymunodd Glenda yn wreiddiol â thîm yr Academi i arwain y prosiect Prynu i Dalu. Yn ogystal â chefnogi'r meysydd rhagoriaeth ac arloesi ehangach, mae hi wedi ehangu ei phortffolio yn ddiweddar i gynnwys Strategaeth Cyllid Digidol newydd GIG Cymru.