Mae timau cyllid effeithiol yn cynnwys pobl effeithiol, medrus a brwdfrydig. Mae ein rhaglen pobl yn cefnogi pobl i wneud eu swyddi’n dda ac mae’n eu helpu i dyfu a chyflawni eu llawn botensial.
Mae’r rhan fwyaf o’n rhaglenni, o weithgareddau dysgu sy’n gwella sgiliau neu wybodaeth benodol drwy ddatblygu cyfleoedd sy’n cynnwys secondiadau neu fentora, ar gael i unrhyw un sy’n gweithio ym maes cyllid yn GIG Cymru, beth bynnag fo’u dyheadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol. Rydym hefyd yn rhoi cymorth i bobl sy’n astudio ar gyfer eu harholiadau cyllid mewn timau lleol ac mae gennym gyfres o biblinellau talent i ddatblygu ein harweinwyr presennol a rhai’r dyfodol.