Gwneud ein prosesau’n ardderchog a chreu a defnyddio’r offer gorau ar gyfer y swydd
Gan weithio gyda phartneriaid o wasanaethau eraill yn y GIG, rydym yn cefnogi’r gwaith o wella gwasanaethau a defnyddio datrysiadau technolegol i sicrhau bod prosesau yn effeithlon ac yn diwallu anghenion staff y GIG sy’n eu defnyddio.
Mae ein rhaglenni hefyd yn helpu timau cyllid i ryddhau’r amser a dreulir ar hyn o bryd ar brosesau dadansoddi rhyngweithredol a dadansoddi â llaw ym maes cyfrifyddu a rheoli perfformiad ariannol, fel y gallant roi rhagor o adnoddau i weithgareddau sy’n ychwanegu gwerth, fel partneru busnes ac arloesi.
Mae Rhagoriaeth mewn Llywodraethu Ariannol hefyd yn gynwysedig yn y thema Hyrwyddo Rhagoriaeth ac rydym yn datblygu nifer o Ganllawiau Arfer Da ar gyfer staff cyllid.