Gwella ein perthnasoedd, ein dealltwriaeth o eraill a’u dealltwriaeth ohonom ni
Yn ogystal â datblygu rhwydweithiau ar draws cymuned gyllid GIG Cymru, rydym yn gweithio’n agos gyda sawl partner yn y gwasanaeth iechyd ac o’r sectorau preifat a chyhoeddus.
Mae datblygu partneriaethau agos gyda chlinigwyr ac eraill sy’n gweithio yn GIG Cymru yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau’r gwerth gorau posibl i’r bobl sy’n byw yng Nghymru. Rydym hefyd yn cydnabod gwerth dysgu gan eraill, ac rydym wedi sefydlu ac rydym yn rhan o nifer o rwydweithiau a chyfnewidiadau dysgu gyda sefydliadau allanol.