Bob mis Medi mae Bwrdd yr Academi yn edrych yn ôl ar gyflawniadau'r flwyddyn flaenorol ac yn cytuno ar y rhaglen ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mae hefyd yn gyfle i’r rhai sy’n arwain ein rhaglenni ddweud a ydynt ymgymryd â rhaglen wahanol neu gamu o’r neilltu er mwyn gadael i gydweithwyr eraill y Cyfarwyddwyr Cyllid gymryd rhan. Eleni bu nifer o newidiadau, gan gynnwys ein cadeirydd.
Penodwyd Glyn Jones fel Cadeirydd yr Academi Gyllid, bydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Alan Brace. Cefnogir Glyn gan Hywel Jones, yr Is-gadeirydd, rôl newydd sy’n adeiladu ar y gefnogaeth anffurfiol yr oedd Eifion Williams yn ei rhoi i Alan.
Mae Alan yn parhau i fod yn aelod craidd o Fwrdd yr Academi Gyllid, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cyllid y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac fel Pennaeth Proffesiwn adrannau cyllid GIG Cymru.
Pobl - Bydd Huw Thomas yn ymgymryd â rôl Noddwr Cyfarwyddwr Cyllid gyda chefnogaeth Andy Butler fel Is-Noddwr. Cymerodd Andy y rôl noddwr dros dro pan adawodd Russel Favager ac mae’n parhau i gadeirio’r Grŵp Arweinwyr Pobl.
Arloesi - Symudodd Claire Osmundsen-Little o’r rôl fel Bydi i rôl fel Noddwr, gan gymryd yr awenau oddi wrth Glyn Jones. Cefnogir Claire gan Bob Chadwick fel Is-Noddwr.
Partneriaeth - Bydd Pete Hopgood yn cymryd lle Mark Osland yn y rôl Noddwr a bydd Sue Hill yn ei gefnogi fel Is-Noddwr a Bob Chadwick ar y rhaglen ariannol glinigol.
Rhagoriaeth - Mae Chris Turley yn parhau fel Noddwr Cyfarwyddwyr Cyllid ac yn cael ei gefnogi gan Lynne Hamilton fel Is-Noddwr. Mae Lynne hefyd yn cadeirio'r Grŵp Llywio Gwella Llywodraethu Ariannol.
Wrth gyflwyno crynodebau o weithgarwch ym maes eu rhaglen ers mis Medi 2019, gwnaeth Noddwyr a Chyfeillion y Cyfarwyddwyr Cyllid a oedd yn camu o’r neilltu ddiolch i dîm yr Academi Gyllid am eu cefnogaeth, ynghyd â chydnabod cyfraniadau staff cyllid GIG Cymru sy'n gwirfoddoli i arwain a chefnogi prosiectau a rhaglenni penodol.
Cyflwynodd pob un o'r Noddwyr newydd eu rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod, sy'n adeiladu ar lawer o brosiectau sy'n bodoli eisoes ac yn parhau â nhw, ynghyd â chyflwyno blaenoriaethau newydd. Byddwn yn sgwrsio â phob un ohonynt i ddarganfod rhagor am eu syniadau ar gyfer y dyfodol.