Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi rhaglen prentisiaeth cyllid sector cyhoeddus cymru gyfan

Wrth i ni ddechrau dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn rhan o raglen brentisiaeth gyffrous newydd – Rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan. Cyflwynir y rhaglen hon mewn partneriaeth ag aelodau o'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid.

Mae'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid yn bartneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys sefydliadau fel Archwilio Cymru, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir, llywodraeth leol a'r heddlu.

Dyfarnwyd Gwobr Arloesedd Cyllid Cyhoeddus i'r grŵp yn 2017 am ei fodel arloesol o hyfforddiant a datblygiad ym maes cyllid i raddedigion, er mwyn hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd gyrfa mewn cyllid cyhoeddus. Mae'r grŵp bellach yn awyddus i ddatblygu rhaglen yr un mor arloesol i brentisiaid.

Mae'r rhaglen tair blynedd ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisiau dilyn gyrfa ym maes cyllid ac mae'n cynnig hyfforddiant proffesiynol gyda Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) o lefel 2 hyd at lefel 4, a hynny tra’u bod yn gweithio mewn corff sector cyhoeddus. Ategir yr hyfforddiant AAT gan hyfforddiant proffesiynol pellach gan gynnwys astudio ar gyfer modiwl cyllid sector cyhoeddus penodedig.

Er y bydd prentisiaid yn cael eu cyflogi gan un o'r sefydliadau partner, agwedd unigryw'r rhaglen hon yw y bydd  prentisiaid yn treulio amser gyda chyrff partner eraill ac felly'n profi'r ystod lawn o swyddogaethau cyllid ac ehangder darpariaeth y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Bydd cyfleoedd ar gael o fis Medi 2021, a chyhoeddir rhagor o wybodaeth am y rhaglen newydd a chyffrous hon yn ystod yr wythnosau nesaf. Dilynwch ni ar Twitter a gwiriwch ein tudalen prentis am ddiweddariadau.  

Rhannu: