Neidio i'r prif gynnwy

Gweminar byw: Rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan

logo cloc y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid

Ydych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes cyllid a chyfrifyddiaeth?

Ymunwch â'r gweminar fyw hon gyda'n partner Archwilio Cymru i gael gwybod beth sydd gan Raglen Cymorth Sector Cyllid Cyhoeddus Cymru Gyfan i'w gynnig. 

Cyflwynir y rhaglen newydd arloesol hon mewn partneriaeth ag aelodau o'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid; partneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru.

Cewch glywed gan aelodau'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y rhaglen newydd gyffrous, yn ogystal â sut i wneud cais.

Ddim yn siŵr ai prentisiaeth yw'r llwybr cywir i chi? Cewch gyfle i ofyn eich cwestiynau i'r panel a chlywed gan gyn-brentisiaid am eu profiadau nhw.

Pryd mae'r weminar?

13 Mai 2021  12:45 i 13:30

Sylwch, bydd y gweminar yn cael ei recordio a'i storio ar YouTube i’w wylio yn y dyfodol.

Sut ydw i'n cofrestru fy niddordeb? 

Gwneir archebion ar gyfer y weminar trwy wefan Archwilio Cymru yma. Darllenwch eu "rhybudd archebu digwyddiad teg" os gwelwch yn dda, a pheidiwch ag anghofio cynnwys eich cyfeiriad e-bost wrth archebu felly gellir anfon cyfarwyddiadau ymuno atoch.

Am wneud cais am rôl prentis gyda Gyllid Cymru GIG fel rhan o'r rhaglen hon?

Am y cyfleoedd o fewn cyllid GIG Cymru bydd angen i chi wneud cais trwy Swyddi GIG. Darganfyddwch fwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi a manylion ar sut i wneud cais ar ein gwefan yma.

Mae cyfleoedd gyda'n partneriaid yn cael eu hysbysebu trwy eu gwefannau.

Rhannu: