Neidio i'r prif gynnwy

Ymweliadau tîm ac arolwg staff ym maes cyllid

Dwylo gyda swigod siarad yn yr awyr

Yn sgil ymweliadau tîm llwyddiannus iawn y llynedd, mae Cadeirydd yr Academi Gyllid (Glyn Jones) a’r Cyfarwyddwr (Rebecca Richards) yn dod i gwrdd ag aelodau o bob tîm cyllid yn ystod mis Ionawr.


Mae’r ymweliadau’n gyfle delfrydol i ddiweddaru sefydliadau ar gynnydd rhaglen yr Academi Gyllid a hefyd i gael adborth uniongyrchol ar sut mae’r rhaglen yn gweithio, naill ai gan y tîm llawn neu’r cynrychiolwyr.


Fel y gwnaethom y llynedd, rydym hefyd wedi anfon arolwg byr atoch er mwyn i chi roi adborth i ni ar sut mae pethau wedi datblygu ers i ni ymweld ddiwethaf.


Eleni mae'r arolwg hefyd yn cynnwys adran benodol ar Arloesi yr ydym yn ei gwneud mewn partneriaeth â Chymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig er mwyn cael adborth i lywio ein rhaglen Arloesi. Mae’r cwestiynau yn ymwneud ag arloesi yn y maes cyllid ac y tu hwnt ac rydym yn sylweddoli y bydd cyfranogiad ac ymwybyddiaeth o arloesi pobl yn amrywio. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch gan y bydd yn ddefnyddiol iawn cael adborth o'r swyddogaeth gyllid gyfan.


Rydym hefyd wedi ychwanegu ychydig o gwestiynau i ddarganfod a yw staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi er mwyn llywio ein rhaglen Partneriaethau.


Mae’r arolwg yn hollol ddienw felly gallwch fod yn hollol agored a dweud beth yr hoffech ei weld yn cael ei newid neu’n cael ei ychwanegu at ein rhaglen - dyna sut y byddwn yn gwella.


Dylech fod wedi derbyn e-bost eisoes gan eich Cyfarwyddwr Cyllid neu Arweinwyr Pobl yn gofyn i chi gwblhau’r arolwg.


Arolwg Staff yr Academi Gyllid 2019


Bydd rhaid cwblhau'r arolwg erbyn 31 Rhagfyr. Bydd hyn yn rhoi amser i ni ddadansoddi’r canlyniadau cyn i ni ymweld â phob sefydliad. Byddwn yn cychwyn ar ein “taith” yn gynnar ym mis Ionawr gyda’r ymweliad cyntaf ar 9 o Ionawr. Felly os byddwch chi’n gweithio rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd, mae’n bosibl y bydd yn gyfnod da i’w gwblhau. Os na, sicrhewch eich bod chi’n ei gwblhau cyn i chi fynd ar eich gwyliau.


Cawsom ymateb anhygoel y llynedd. Yn gyffredinol, ledled Cymru roedd y gyfradd ymateb yn 78% ac roedd hi dros 90% mewn rhai sefydliadau. Gadewch i ni weld a allwn gyflawni hyn eto neu wneud hyd yn oed yn well!


Byddwn yn rhannu’r canlyniadau cyffredinol â chi yn ein Cynhadledd Staff Cyllid ym mis Chwefror a thrwy ein cylchlythyrau fel y gwnaethom y llynedd.

Rhannu: