Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau Cyllid Cyhoeddus 2019

Tîm yr Academi Gyllid yn y Gwobrau Cyllid Cyhoeddus

Daeth yr Academi Gyllid yn gyntaf yng nghategori Menter Hyfforddi a Datblygu Cyllid yng Ngwobrau Cyllid Cyhoeddus 2019 ar 1 Mai 2019 yn Llundain.


Gwnaeth Mark Osland (ar ran Noddwyr Cyfarwyddwyr Cyllid), Tim Kelland (ar ran ein harweinwyr/hyrwyddwyr), Glenda Branken o dîm yr Academi Gyllid a Rebecca Richards, Cyfarwyddwr yr Academi Gyllid gynrychioli’r Academi Gyllid yn y noson wobrwyo.


Sylwadau’r beirniaid - “Mewn cyfnod o gyfyngu, cynyddodd uchelgais yr enillydd hwn yn hytrach na lleihau. Datblygodd fenter sy'n berthnasol i gynulleidfa eang, gan ddenu sylw cewri'r diwydiant".


Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth enfawr i'r Academi Gyllid ar lwyfan cenedlaethol ac mae'n cydnabod ac yn dathlu gwaith caled ac ymrwymiad staff cyllid ar draws GIG Cymru.

Rhannu: