Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

 

C1. Sut wy’n ymgeisio?

C2. Beth yw’r meini prawf cymhwyso?

C3. A oes arnaf angen profiad o reoli?

C4. A fydd profiad gwaith yn y GIG yn helpu fy nghais?

C5. A oes yna gyfyngiad oedran?

C6. Os wyf eisoes yn gweithio i’r GIG, a ddylwn ddweud wrth fy sefydliad fy mod yn ymgeisio am y cynllun hwn?

C7. Sut allaf gael gwybodaeth am hynt fy nghais?

C8. Pa fath o asesiad y dylwn ei ddisgwyl?

C9. Sut allaf baratoi ar gyfer yr asesiad er mwyn gwneud fy ngorau?

C10. Pryd fydd y camau asesu’n cael eu cynnal?

C11. Faint fyddaf fi’n cael fy nhalu yn ystod y Cynllun?

C12. Ble byddaf yn cael fy lleoli?

C13. Pa gefnogaeth a datblygiad fyddaf yn eu cael yn ystod y cynllun?

C14. A fyddaf yn gallu astudio am gymhwyster ffurfiol?

C15. Sut gaiff fy nghynnydd ei fesur yn ystod y Cynllun 36 mis?

C16. Pa fath o gyfleoedd am swydd y gallaf ddisgwyl eu cael ar ôl imi gwblhau’r Cynllun hyfforddiant?

C17. Oes rhaid i mi fod yn siaradwr Cymraeg?

C18. Ai swydd tymor penodol neu secondiad yw hwn? 

 
 
Mae ein system ymgeisio ar agor o 19 Tachwedd 2017 ymlaen. Gallwch ymgeisio ar-lein drwy fynd i www.jobs.nhs.uk. Mae manylion llawn y broses ymgeisio, data cefndir a dolenni cyswllt at fwy o wybodaeth i’w cael ar y wefan hon.
 
 
 
Bydd angen i chi fod wedi ennill gradd 2:2 (mewn unrhyw bwnc) erbyn mis Gorffennaf 2017 a, drwy ein systemau asesu, bod yn gallu dangos sgiliau arweinyddiaeth, ariannol a rheoli a’ch potensial i gyrraedd swydd ar lefel uwch. Bydd dulliau asesu yn cynnwys cymysgedd o sgiliau ysgrifenedig, llafar ac ymddygiadol a fwriedir i alluogi ymgeiswyr i ddangos gallu a photensial i fodloni cymwyseddau ac ymddygiadau arweinyddiaeth, ariannol a rheoli yn unol â gwerthoedd GIG Cymru.
 
 
 
Bwriedir i’r Cynllun hyfforddiant ddatblygu eich sgiliau rheolaeth ariannol, rheolaeth gyffredinol ac arweinyddiaeth. Os oes gennych brofiad sylweddol o reolaeth ariannol neu reoli cyffredinol, yna nid yw’r Cynllun hwn yn addas ichi a dylech edrych ar opsiynau datblygu personol eraill.
 
 
 
Nid yw’n hanfodol, ond bydd yn ddefnyddiol i’ch helpu i ddeall yr heriau mawr sy’n wynebu arweinyddion yn y GIG modern.
 
 
 
Nid oes dim cyfyngiad oedran ar gyfer ymgeisio i’r Cynllun.
 
 
 
Oherwydd y bydd angen i’ch cyflogwr presennol gytuno ar drefniadau secondiad os ydych yn llwyddiannus, gofynnwn ichi ddweud wrth eich Adran Adnoddau Dynol, yn gyfrinachol, cyn i chi gyflwyno eich cais.
 
 
 
Os cewch eich gwahodd i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses ddethol, byddwch yn cael eich gwahoddiad drwy e-bost. Fe’ch cynghorir i edrych yn rheolaidd ar eich cyfrifon e-bost ac os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch: Cynllun Rheolaeth Ariannol: finance.academy@wales.nhs.uk
 
 
 
Rydym yn defnyddio technegau asesu modern a’r arferion gorau gyda’r nod o roi pob cyfle ichi ddangos eich potensial a’ch sgiliau arwain. Byddwch yn cael gwybod am y safonau, y cymwyseddau a’r sgiliau rydym yn chwilio amdanynt ym mhob cam. Mae rhan o’n hasesiad yn ymwneud â’ch potensial i ddatblygu sgiliau allweddol yn ogystal â’r rheini’r ydych eisoes yn meddu arnynt.
 
Mae pob rhan o’r asesiad wedi cael ei chynllunio i’ch asesu chi a’ch potensial. Bydd y dulliau asesu yn cynnwys cymysgedd o sgiliau ysgrifenedig, llafar ac ymddygiadol a fwriedir i alluogi ymgeiswyr i ddangos gallu a photensial i gyflawni ymddygiadau a chymwyseddau arweinyddiaeth, rheolaeth ariannol a rheoli cyffredinol yn unol ag egwyddorion craidd GIG Cymru.
 
 
 
Mae angen i chi fod yn chi eich hun a defnyddio eich gallu naturiol ym mhob cam asesu. Bydd angen i chi adolygu’r wybodaeth sydd ar gael am y Cynllun a’r her fawr o arwain yn GIG Cymru. Mae’r wybodaeth ar y wefan yn rhoi mwy o fanylion ichi am yr asesiad dethol a gall eich helpu i ddeall y cyfeiriad strategol a’r amgylchedd ariannol a’r heriau sy’n wynebu GIG Cymru.
 
 
 
Mae amserlen lawn o’r gwahanol gamau asesu ar gael ar y wefan hon. Byddwn yn hysbysu ymgeiswyr ym mhob cam drwy e-bost.
 
 
 
Os ydych yn newydd i’r GIG, bydd eich cyflog cychwynnol yn tua £28,000 y flwyddyn. Os ydych eisoes yn gyflogedig yn y GIG ar wahanol delerau ac amodau i’r swydd a hysbysebir, bydd angen ichi drafod eich cais gyda’ch cyflogwr (penderfynir ar unrhyw fater o ddiogelu telerau ac amodau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Iechyd cyflogi dan sylw), felly mae’n bwysig bod yr Adran Adnoddau Dynol yn ymwybodol o’ch diddordeb yn y Cynllun cyn ichi wneud cais.
 
 
 
Ar gyfer y Cynllun Rheolaeth Ariannol, byddwch yn cael eich lleoli gyda sefydliad cynnal, ond byddwch hefyd yn cael profiad o rolau cyllid gwahanol mewn un neu ragor o sefydliadau ar draws GIG Cymru.
 
Byddwn yn gofyn ichi nodi’r cyflogwr/cyflogwyr o’ch dewis yn GIG Cymru fel rhan o broses y Ganolfan Asesu.
 
Sylwer, er na allwn sicrhau y byddwch yn cael eich lleoli yn y sefydliad o’ch dewis, os cewch eich dethol ar gyfer y cynllun, byddwn yn ceisio sicrhau y gwneir pob ymdrech i’ch lleoli yn y sefydliad o’ch dewisol.
 
 
 
Bydd eich perfformiad a’ch cynnydd yn cael eu rheoli’n agos gan eich rheolwr llinell; bydd ef/hi yn mynnu ymrwymiad a chanlyniadau a bydd yn rhoi adborth ichi ar eich perfformiad (yn academaidd ac yn seiliedig ar waith) a’ch potensial. Byddwn yn darparu gweithdai datblygu sgiliau, astudiaeth at gymhwyster cyfrifyddu proffesiynol, Setiau Dysgu Gweithredol ynghyd â Mentor academaidd a chyffredinol.
 
Bydd tîm yr Academi Gyllid yn rheoli datblygiad cyffredinol y Cynllun Rheolaeth Ariannol ac yn darparu deunydd a chymorth ar-lein fel rhan o’i rhaglen datblygu staff cyllid yn GIG Cymru. Yn ystod y Cynllun gofynnir ichi roi cyflwyniad byr i Gyfarwyddwr Cyllid eich Bwrdd Iechyd neu’ch Ymddiriedolaeth GIG am eich cyraeddiadau a’ch cynnydd a byddwch yn cael adborth yn uniongyrchol oddi wrthynt.
 
 
 
Byddwch yn astudio cymhwyster cyfrifeg proffesiynol achrededig ar y Cynllun Ariannol. Rydym yn disgwyl ichi ennill y cymhwyster hwn er mwyn graddio o’r Cynllun (ACCA ar hyn o bryd).
 
Mae ymgeiswyr sy’n meddu ar gymhwyster technegydd cyfrifeg yn gymwys i ymgeisio gan dybio eu bod yn bodloni’r meini prawf eraill gan gynnwys gradd 2:2. Ni fydd ymgeiswyr o’r fath sy’n meddu ar eithriadau o rai o arholiadau cyrff cyfrifeg yn cael dilyn trywydd cyflym.
 
 
 
Mae Cynllun Rheolaeth Ariannol GIG Cymru wedi cael ei greu fel Cynllun tair blynedd, caiff perfformiad ei asesu’n barhaus a cheir pwyntiau asesu ffurfiol bob 6 mis pan fydd eich cynnydd yn eich swydd, eich targedau datblygu a’ch cynnydd academaidd yn cael eu trafod, eu cytuno, eu cofnodi a’u hadrodd. Bydd eich rheolwr llinell yn trafod eich perfformiad gyda chi ar bob cyfle a bydd eich datblygiad yn cael ei siapio gan y cyd drafodaethau hyn.
 
Ceir proses rheoli perfformiad glir a thryloyw sy’n cael ei rheoli gan yr Academi Gyllid mewn partneriaeth â’ch sefydliad.
 
Bydd Blwyddyn 1 yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a chymwyseddau rheolaeth ariannol craidd gan roi ichi ar yr un pryd ddealltwriaeth eang o sut mae gwahanol elfennau o sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gofal iechyd o’r radd flaenaf i bobl Cymru. Byddwch yn cael y cyfle i weld rhannau o systemau strategol ariannol sefydliadau ar waith.
 
Bydd Blwyddyn 2 yn datblygu eich sgiliau rheoli ariannol, busnes a gweithio mewn partneriaeth yn ogystal ag yn parhau i ddatblygu eich sgiliau rheoli ac arwain ymhellach, gan roi amrediad i’ch profiad yn y GIG.
 
Bydd Blwyddyn 3 yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau strategol ariannol, busnes a phartneriaeth ymhellach, gan ddarparu cyfleoedd mewn lleoliadau sydd, ar ôl trafod gyda’ch rheolwr llinell, o ddiddordeb ichi er mwyn siapio profiad y flwyddyn olaf hon.
 

Gan weithio ar y cyd ag adolygiadau, drwy gydol eich amser ar y rhaglen, bydd angen i chi hefyd fodloni gofynion y Fframwaith Cymwyseddau.  Mae’r fframwaith hwn, fel rhan o Blatfform Dysgu a Datblygu, wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gan yr holl staff cyllid ac mae wedi’i ddylunio yn bennaf i greu diwylliant o ddysgu a datblygu parhaus a'r disgwyliad bod adolygiadau datblygu a chyfleoedd i ddiwallu anghenion datblygu yn arfer cyffredinol ac i gefnogi a galluogi pob aelod o'r Gymuned Gyllid i fod y "fersiwn orau ohonynt eu hunain" y gallant fod.  Mae cymwyseddau wedi'u cynnwys sy'n ymgorffori cymwyseddau arweinyddiaeth generig a chymwyseddau technegol.

 
Os ydych chi wedi perfformio’n foddhaol yn erbyn yr amcanion a’r cymwyseddau ar bob cam blynyddol gan gynnwys pasio’r arholiadau cyfrifeg perthnasol dylech symud ymlaen i’r flwyddyn ganlynol.
 
Os cewch anawsterau byddwch yn cael cyfle i wella a bydd yr Academi Gyllid a’r Adran Adnoddau Dynol yn rheoli eich perfformiad drwy weithdrefnau gallu’r sefydliad cynnal; gallai hyn olygu na fyddech yn symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf.
 
Os byddwch yn methu arholiadau ar unrhyw gam bydd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r tîm academaidd cyfrifeg, eich rheolwr llinell, Adnoddau Dynol a’r Academi Gyllid; gallai hyn olygu na fyddech yn symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf.
 
 
 
Rydym yn disgwyl i’r rheini sy’n cwblhau ein Cynllun Rheolaeth Ariannol tair blynedd yn llwyddiannus wneud cais am swydd rheoli ariannol sylweddol. Byddwn yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth yrfaol ar gyfer ein hegin-arweinwyr i fynd i’r afael â’r heriau mawr mewn ystod eang o rolau cyllid ar draws GIG Cymru. Er nad oes sicrwydd o swydd barhaol ar ddiwedd y Cynllun, mae’r Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi addo eu cefnogaeth i sicrhau bod cyfleoedd datblygu pellach ar gael i gyfranogwyr cynllun Rheolaeth Ariannol GIG Cymru.
 
 

 C17. Oes rhaid i mi fod yn siaradwr Cymraeg?

Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. Ni fydd yn ofynnol i chi siarad Cymraeg fel rhan o’ch rôl, a bydd ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Cymraeg yn cael eu hystyried yn gyfartal ochr yn ochr â’r rhai sy’n ei siarad.

Mae’r Gymraeg yn rhan fywiog o’n diwylliant ac mewn sawl rhan o Gymru, byddwch yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad fel iaith bob dydd. Efallai yr hoffech ddysgu Cymraeg ac os felly fe welwch fod eich sefydliad wedi ymrwymo i'ch cefnogi i ddysgu.

 

C18. Ai swydd tymor penodol neu secondiad yw hwn?

Ar gyfer ymgeiswyr Allanol mae hwn yn Gontract Cyfnod Penodol gydag adolygiadau perfformiad.

Ar gyfer Ymgeiswyr GIG Mewn Swydd, mae cyfle i hwn fod yn Secondiad gydag adolygiadau perfformiad (bydd unrhyw fater yn ymwneud â diogelu telerau ac amodau ymgeiswyr mewnol yn ôl disgresiwn y Bwrdd Iechyd dan sylw). Cyn gwneud cais, bydd angen i chi sicrhau bod gennych ganiatâd eich rheolwr llinell.

Rhannu: