Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn a Gynigiwn i Chi

Dau unigolyn yn ysgwyd llaw ar gefndir glas
Byddwn yn rhoi hyfforddiant, cefnogaeth a chyfarwyddyd i ddatblygu'ch potensial.
 
Gyda’n rhaglen dair blynedd a phecyn hael o seibiant astudio, sy’n mynd y tu hwnt i’r safonau sy’n ofynnol yn ôl sefydliadau proffesiynol, bydd y cyfranogwyr yn cymhwyso fel cyfrifwyr proffesiynol tra byddant hefyd yn datblygu’r sgiliau ehangach sydd eu hangen i weithio gydag eraill i hybu gwelliant parhaus mewn gwasanaethau gofal iechyd.
 
 
Egwyddorion Sylfaenol Cynllun Rheolaeth Ariannol GIG Cymru
  • Lleoliadau Gwaith - Sgiliau ariannol a phrofiad craidd
  • Datblygiad Arweinyddiaeth - Adeiladu capasiti rheolaethol a chymwysterau
  • Addysg - Cymhwyster cyfrifyddiaeth proffesiynol achrededig (ACCA ar hyn o bryd)
  • Rhwydweithiau Cydradd Rhanbarthol - Gyda myfyrwyr GIG a chyllid sector cyhoeddus eraill
  • Hyfforddi a Mentora - I gefnogi datblygiad personol a thwf
  • Sgiliau technegol a datblygiad personol - Gweithdai, cyrsiau, cistiau offer
Byddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster cyfrifyddiaeth proffesiyniol achrededig dros 3 blynedd ac fe'ch disgwylir i gyflawni'r cymhwyster hwn er mwyn graddio o'r Cynllun. Mae ein pecyn seibiant astudio hael yn mynd y tu hwnt i'r safonau gofynnol gan sefydliadau proffesiynol.
 
Bydd lleoliadau seiliedig ar waith yn cynnig profiad o swyddogaethau ariannol gwahanol mewn un neu fwy o sefydliadau. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso sgiliau ariannol, busnes ac arweinyddol i wir sefyllfaoedd gwaith, gan weithio'n agos gyda meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud am wasanaethau modern, effeithiol a hyblyg, gan gynnwys gwneud penderfyniadau anodd ynghylch sut y caiff adnoddau eu dosbarthu a'r arian ei wario.
Rhannu: