Mae ceisiadau bellach ar gau am eleni.
Edrychwch ar yr hyn rydym yn ei gynnig ac ystyriwch wneud cais y flwyddyn nesaf - mae ceisiadau ar agor bob mis Medi.
Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer ein carfan nesaf yma.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Proffiliau Llwyddiant, gan gynnwys ymddygiadau, cryfderau a galluoedd yn y llyfryn hwn. Mae hyn yn ein cefnogi i ragfynegi'ch perfformiad disgwyleidig yn y rôl drwy’r camau recriwtio amrywiol er mwyn cael darlun cywir o’ch addasrwydd ar gyfer y rôl.
Mae'r camau isod yn rhoi gwybod i chi am y broses.
Rydym yn recriwtio yn yr hydref er mwyn dechrau yn ystod y mis Medi canlynol. Mae gan ein proses ymgeisio nifer o rannau ac mae angen i chi lwyddo ym mhob un ohonynt er mwyn symud ymlaen i’r cam nesaf.
Mae dwy adran i'r broses hon.
Os ydych yn llwyddiannus yn y cam hwn, byddwch yn cael eich gwahodd i Ran 2.
Os ydych yn llwyddo i gyrraedd y cam hwn, byddwch yn cael eich gwahodd i sefyll nifer o brofion ar-lein sydd wedi’u dylunio i brofi eich sgiliau llafar a’ch sgiliau rhifedd. Os ydych yn llwyddiannus yn y cam hwn, byddwch yn cael eich gwahodd i Ran 3.
Bydd ein canolfannau asesu a chyfweliadau â phanel o weithwyr proffesiynol ym maes cyllid o GIG Cymru yn ein helpu i ddarganfod rhagor am eich cryfderau, eich ymddygiadau a’ch set sgiliau.
Bydd ein canolfannau asesu a chyfweliadau â phanel o weithwyr proffesiynol ym maes cyllid o GIG Cymru yn ein helpu i ddarganfod rhagor am eich cryfderau, eich ymddygiadau a’ch set sgiliau.
Cyn i chi wneud cais, i'ch helpu i wneud cais da, awgrymwn eich bod yn darllen y dudalen hon ac yn edrych ar weddill y wybodaeth am y cynllun ar y safle hwn.