Neidio i'r prif gynnwy

Syniadau ac Awgrymiadau

Ydy’r rôl yn addas i chi?

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r GIG nac o’r maes cyllid arnoch, ond efallai y byddwch yn ei gweld yn ddefnyddiol gwneud rhywfaint o ymchwil gefndirol cyn mynd ati i wneud cais. Ni fyddwn yn profi unrhyw un ar hyn, wrth gwrs, ond mae’n arfer da darganfod beth mae Adran Gyllid GIG Cymru yn ei wneud a pham, er mwyn gwirio bod y rôl yn addas i chi ac er mwyn helpu i ddeall pam rydym yn chwilio am gymwysterau a gwerthoedd penodol.  Dyma rai awgrymiadau i’ch rhoi chi ar y trywydd iawn. 

  • Y busnes iechyd – Ceisiwch ddarllen am faterion cyfredol yn ymwneud â’r GIG, gan gynnwys effeithlonrwydd iechyd a gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth.  Gallech fwrw golwg ar wefan Comisiwn Bevan, neu Gronfa’r Brenin sy’n canolbwyntio ar Loegr ond mae’r egwyddorion sylfaenol hefyd yn berthnasol i Gymru. Yn ogystal, efallai y byddwch yn dymuno siarad â theulu neu ffrindiau i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw am y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu fel staff neu’n eu derbyn fel cleifion. 
  • Beth mae cyfrifydd y GIG yn ei wneud – Mae llawer o rolau amrywiol ac mae ein cynllun i raddedigion yn fwy na hyfforddiant cyllid technegol. Darllenwch ein straeon gyrfaoedd cyllid GIG Cymru, cymerwch olwg ar rolau cyllid ar yrfaoedd GIG Cymru, neu chwiliwch ar Google am Bartneru Busnes Cyllid.
  • Gofynion ac arholiadau’r hyfforddiant cyllid proffesiynol – Ar hyn o bryd, rydym yn partneru ag ACCA ar gyfer ein cynllun i raddedigion. Bydd eu gwefan yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am eu cymhwyster a’r cymorth maen nhw’n ei roi i fyfyrwyr.

Y cais ar-lein 

Er bod rhai o’r rhain yn amlwg o bosib, gellir eu methu’n hawdd.

  • Cynlluniwch ymlaen llaw – Peidiwch â gadael eich cais tan y funud olaf.
  • Ymgyfarwyddwch â’r broses ymgeisio ar NHS Jobs. 
  • Gwiriwch eich bod yn gymwys i ymgeisio - a oes gennych o leiaf 2:2 mewn gradd israddedig (unrhyw ddisgyblaeth) ac a ydych yn gymwys i weithio yn y DU - a pheidiwch ag anghofio cynnwys eich choll gymwysterau perthnasol yn eich cais.
  • Darllenwch y swydd ddisgrifiad a manyleb y person yn fanwl, a sicrhewch fod eich tystiolaeth yn dangos i ni sut rydych chi’n bodloni gofynion y rôl.
  • Ysgrifennwch yn glir ac yn eich geiriau eich hun. Byddwch yn gryno ond peidiwch â hepgor pethau pwysig – byddwch yn synhwyrol wrth ddefnyddio’r gofod.  
  • Gwiriwch i sicrhau eich bod wedi llenwi popeth ac nad oes unrhyw gamgymeriadau sillafu na gramadeg. Yn ogystal, gallech ystyried darllen eich ymatebion ar lafar i weld a ydyn nhw’n gwneud synnwyr i chi.  
  • Os ydych chi’n llwyddo i gyrraedd y rowndiau nesaf, ymatebwch yn brydlon i e-byst a phrofion ar-lein, a gwiriwch eich post sothach a rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau i gyfeiriadau e-bost neu rif ffôn symudol. 

Mae gan wefan NHSJobs nodiadau cyfarwyddyd cyffredinol hefyd ar gyfer ymgeiswyr. Rhoddir rhagor o wybodaeth i ymgeiswyr sydd drwodd i bob cam.

Rhannu: