Bydd y cynllun tair blynedd yn eich ymestyn ac yn rhoi cyfle ichi ddatblygu eich sgiliau arwain a rheoli ariannol tra byddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster cyfrifyddu proffesiynol drwy brofiad datblygu dwys ichi, gan ddysgu i weithio ochr yn ochr â chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill..
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cais, byddwch yn cael eich penodi i rôl cyllid yn GIG Cymru ar gyfer cyfnod y Cynllun, gydag un neu fwy o'r sefydliadau GIG yng Nghymru.
Yn ystod y Cynllun hyfforddi bydd disgwyl ichi gydbwyso gofynion rolau a phrosiectau cyllid gweithredol gyda chynllun dysgu seiliedig ar waith, gan astudio y cyfrifo cymhwyster proffesiynol ar yr un pryd.
O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn rhan annatod o dimau cyllid yn GIG Cymru, gan gylchdroi i nifer o leoliadau a fydd yn rhoi dealltwriaeth a phrofiad amhrisiadwy ichi o’r heriau dydd i ddydd, gan roi cyfle ichi ddefnyddio eich sgiliau arwain a rheoli ariannol. Fel cyfranogwr yn y Cynllun, gallwch ddisgwyl hyfforddiant o’r radd flaenaf a chefnogaeth gan fentor.
Bydd eich perfformiad yn cael ei reoli’n ofalus gan uwch reolwr a fydd yn disgwyl ymrwymiad a gweithredu i sicrhau canlyniadau. Bydd eich rheolwr llinell yn rhoi adborth strwythuredig ar eich perfformiad cysylltiedig â gwaith yn ogystal ag yn derbyn a rhoi adborth ar eich cynnydd academaidd.
Er nad oes sicrwydd o swydd barhaol ar ddiwedd y Cynllun tair blynedd, mae’r Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi addo eu cefnogaeth i sicrhau bod cyfleoedd datblygu pellach ar gael.
Mae ein Llyfryn Llwybr Gyrfa yn rhoi trosolwg i chi o'n cynllun. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion am y Proffiliau Llwyddiant a ddefnyddir i asesu eich addasrwydd ar gyfer y rôl hon, a defnyddir y rhain drwy gydol y broses recriwtio.