Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cais

Ffurflenni cais yn dod allan o gyfrifiadur

Oes gennych chi’r  Egni, y Penderfyniad a’r Awydd i wneud gwahaniaeth i gleifion a phobl Cymru?

 

Mae ceisiadau bellach ar gau am eleni.

 

Edrychwch ar yr hyn rydym yn ei gynnig ac ystyriwch wneud cais y flwyddyn nesaf - mae ceisiadau ar agor bob mis Medi.

 

Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer ein carfan 2026 yma.

 

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Proffiliau Llwyddiant, gan gynnwys ymddygiadau, cryfderau a galluoedd yn y llyfryn hwn. Mae hyn yn ein cefnogi i ragfynegi'ch perfformiad disgwyleidig yn y rôl drwy’r camau recriwtio amrywiol er mwyn cael darlun cywir o’ch addasrwydd ar gyfer y rôl.

Mae'r camau isod yn rhoi gwybod i chi am y broses. 

 

Camau’r Cais

Rydym yn recriwtio yn yr hydref er mwyn dechrau yn ystod y mis Medi canlynol.   Mae gan ein proses ymgeisio nifer o gamau ac mae angen i chi lwyddo ym mhob un ohonynt er mwyn symud ymlaen i’r cam nesaf.

Rhan 1: Ffurflen gais ar-lein

I ddechrau, rydych chi'n gwneud cais trwy lenwi ffurflen gais ar-lein safonol y GIG trwy wefan Trac.jobs. 

Rhan 2: Asesiad sgiliau ar-lein

Os ydych chi drwodd i'r cam hwn fe'ch gwahoddir i sefyll prawf ar-lein wedi'i gynllunio i brofi eich sgiliau llafar, rhesymu a rhifiadol.  Os ydych yn llwyddiannus yn y cam hwn, byddwch yn cael eich gwahodd i Ran 3.

Rhan 3: Cyfweliad fideo ar-lein

Byddwch yn derbyn dolen i gwblhau cyfweliad fideo ar-lein, y gellir ei gwblhau yn eich amser eich hun rhwng dyddiadau penodol ac sy'n cael ei recordio.  Bydd gofyn i chi ateb cwestiynau, a fydd wedyn yn cael eu sgorio gan ein gweithwyr cyllid proffesiynol yn seiliedig ar ein proffiliau llwyddiant.  Os ydych yn llwyddiannus yn y cam hwn, byddwch yn cael eich gwahodd i Ran 4.

Rhan 4: Cyfweliad wyneb yn wyneb

Cyn mynd i’r cyfweliad, bydd disgwyl i chi gwblhau Prawf Penderfyniadau Sefyllfaol ar-lein.  Unwaith y byddwch wedi'i gwblhau byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cyfweliad, lle byddwch yn cyfarfod â phanel o weithwyr cyllid proffesiynol a fydd yn gofyn cwestiynau i chi mewn perthynas â'n proffiliau llwyddiant.  Os ydych yn llwyddiannus yn y cam hwn, byddwch yn cael eich gwahodd i Ran 5.

Rhan 5: Canolfan asesu wyneb yn wyneb

Mae ein canolfannau asesu gyda phanel o weithwyr cyllid proffesiynol o GIG Cymru a fydd yn ein helpu i ddarganfod mwy am eich cryfderau, eich ymddygiad a'ch set sgiliau.

Cynnig: Llongyfarchiadau

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cynnig lle ar y Cynllun tair blynedd, yn amodol ar wiriadau cyn cyflogaeth a gwiriadau o gymwysterau a chymwyseddau eraill. 

 

Cyn i chi wneud cais, i'ch helpu i wneud cais da, awgrymwn eich bod yn darllen y dudalen hon ac yn edrych ar weddill y wybodaeth am y cynllun ar y safle hwn

Rhannu: